Barnaul
Gwedd
Math | tref/dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 623,057 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Lyudmila Zubovich, Sergej Dupin |
Cylchfa amser | UTC+07:00 |
Gefeilldref/i | Oskemen, Zaragoza, Baicheng, Changji |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Barnaul Urban District |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 322 ±1 km² |
Uwch y môr | 180 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 53.3567°N 83.7872°E |
Cod post | 656000–656999 |
Pennaeth y Llywodraeth | Lyudmila Zubovich, Sergej Dupin |
Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Barnaul (Rwseg: Барнаул), sy'n ganolfan weinyddol Crai Altai, Dosbarth Ffederal Siberia. Fe'i lleolir ar lan Afon Ob. Poblogaeth: 612,401 (Cyfrifiad 2010).
Mae'r ddinas yn gorwedd ar lan Afon Ob ar Wastadedd Gorllewin Siberia. Barnaul yw'r ddinas fawr agosaf i gadwyn Mynyddoedd Altai, i'r de. Fe'i lleolir yn weddol agos i'r ffin rhwng Rwsia a gwledydd Casacstan, Mongolia, a Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Cafodd ei sefydlu yn 1730.