Coed Glyn Cynon
Coedwig ym Morgannwg oedd Coed Glyn Cynon, a dorrwyd yn yr 16g gan ddiwydianwyr o Loegr er mwyn cael golosg.[1] Mae cerdd adnabyddus o'r un enw gan fardd anhysbys yn galaru colli'r goedwig ac yn melltithio ei difethwyr.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae union leoliad Coed Glyn Cynon yn ansicr. Mae'n debyg ei fod yn llenwi rhan sylweddol o ran isaf Cwm Cynon (yn ardal Rhondda Cynon Taf heddiw) ym Morgannwg.[1] Dywedir yn y gerdd iddo ei fod yn ymestyn o Aberdâr drwy blwyf Merthyr a Llanwynno i Lanfabon ac yn cynnwys coed derw a bedw.[2]
Cerdd
[golygu | golygu cod]Torrwyd y coed gan ddiwydiannwyr o Loegr er mwyn cael golosg ar gyfer toddi haearn, cyn darganfod glo yn yr ardal.[1] Ymatebodd bardd cyfoes ond anhysbys i hynny drwy gyfansoddi galarnad i'r goedwig. Yn y gerdd, sydd ar fesur rhydd, mae'n gresynu colli llannerchoedd lle cyrddai cariadon dan y deri a'r bedw ac a oedd yn gartref i adar ac anifeiliaid niferus gan gynnwys ceirw o sawl rhywogaeth a thyrchod. Cyfeirir hefyd at "geirw cochion" yn gorfod encilio oddi yno i "ddugoed Mawddwy"; cyfeiriad at herwyr lleol tebyg i Gwylliaid Cochion Mawddwy efallai.[2]
Nodweddir y gerdd gan ei hysbryd o Gymreictod a gwrth-Seisnigrwydd. Melltithir "holl blant Alis ffeilsion" am yr anfadwaith o dorri'r coed gan ddymuno iddynt fod "ynghrog yng ngwaelod eigion".[2]
Mae'r awdur yn anhysbys ond ar ddiwedd y gerdd mae'r bardd yn datgan ei fod yn "Dyn a fu gynt yn cadw oed / Dan fforest Coed Clyn Cynon."[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir testun y gerdd 'Coed Glyn Cynon' mewn sawl llyfr a blodeugerdd Gymraeg, yn cynnwys:
- Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Rhydychen, sawl argraffiad). Cerdd 100.
- Christine James, 'Coed Glyn Cynon', yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cyfres y Cymoedd: Cwm Cynon (Gwasg Gomer, 1997).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.