Dallineb lliw
Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder golwg, colour vision deficiency, dallineb, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dallineb lliw yw'r gallu gostyngedig i weld lliw neu wahaniaethau mewn lliw.[1]
Mae'r golwg yn dibynnu ar yr ymennydd i ddehongli ac integreiddio signalau o gelloedd sy'n sensitif i olau ar arwyneb y retina. I wahaniaethu rhwng lliwiau mae'r ymennydd yn cymhlitho'r mewnbwn gan gelloedd a elwir yn gonau, yn retina'r llygad. Os bydd diffyg mewn golwg lliw yn digwydd mae'n golygu nad oes gan yr unigolyn y swm cywir o bigmentau cemegol yn un neu fwy o'r conau hyn i brosesu lliw yn gywir.[2]
Dallineb lliw coch-gwyrdd
[golygu | golygu cod]Dallineb lliw coch-wyrdd (dewteranopia) yw'r diffyg golwg lliw mwyaf cyffredin. Ni all unigolion wahaniaethu rhwng arlliwiau o goch a gwyrdd.
Mae'n gyflwr etifeddol enciliol cysylltiedig â rhyw person, sy'n golygu ei fod yn fwy cyffredin mewn dynion.
Felly, mewn llawer o boblogaethau'r Gorllewin, mae 5-9% o wrywod yn ddall i liwiau i ryw raddau, tra bod y ffigwr cyfatebol mewn benywod yn llai nag 1%. Gall y diffyg achosi mân broblemau gweithredol, er enghraifft, os yw'r unigolyn yn cael anhawster i wahaniaethu rhwng goleuadau traffig coch a gwyrdd, neu pe bai'r unigolyn yn dymuno bod yn drydanwr neu beiriannydd ffôn, byddai'n rhaid iddynt ddelio â gwifrau sydd â chod lliwiau - ac mae llawer o'r rhain yn goch a gwyrdd, neu’n arlliwiau o goch a gwyrdd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Facts About Color Blindness". NEI. February 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 July 2016. Cyrchwyd 29 July 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)