Dyslecsia
Enghraifft o'r canlynol | anabledd dysgu, anabledd darllen, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder darllen, anhwylder iaith, anabledd dysgu, clefyd |
Y gwrthwyneb | hyperlecsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anabledd dysgu sy'n achosi anawsterau gyda iaith ysgrifenedig yw dyslecsia. Er bod sillafu a darllen yn anodd i bobl ddyslecsig, mae'n gyflwr gwbl wahanol i anawsterau a achosir gan ddiffyg deallusrwydd, nam ar y clyw neu'r golwg, neu ddiffygion addysg llythrennedd. Daw'r gair dyslecsia o'r Roeg "δυσ-" ("diffygiol") a λέξις ("gair").
Mae'n debyg mai sut y mae'r ymennydd yn prosesu iaith ysgrifenedig a llafar sy'n achosi dyslecsia. Mae dyslecsia'n effeithio pobl ddeallus, anneallus a chanolig eu gallu fel ei gilydd.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Bathwyd y term 'dyslecsia' ym 1887 gan Rudolf Berlin, yn Stuttgart, yr Almaen.[2] Gwnaed rhywfaint o ymchwil iddo yn Lloegr o 1896[3] ymlaen gan W. Pringle Morgan a James Hinshelwood, (dallineb geiriau oedd y term a ddefnyddiwyd ganddynt).[4]
Ymchwil wyddonol
[golygu | golygu cod]Y ddamcaniaeth esblygol
[golygu | golygu cod]Yn ôl y ddamcaniaeth hon, gweithred annaturiol yw darllen, un a wnaed gan ddyn am gyfnod byr iawn o'n hanes esblygol. Yn wir, mae sawl rhan o'r byd lle nad oes gan fwyafrif y boblogaeth gyfle i ddarllen o hyd. Nid oes tystiolaeth bod "patholeg" y tu ôl i ddyslecsia, ond mae llawer o dystiolaeth o amrywiaeth neu wahaniaethau ymenyddol.[5]
Y ddamcaniaeth ffonolegol
[golygu | golygu cod]Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae gan bobl ddyslecsig amhariad penodol wrth gynrychioli, storio ac adalw synau llafar. Gall hyn egluro'r anawsterau darllen a geir, gan fod angen dysgu'r gyfatebiaeth rhwng ffonemau a graffemau er mwyn dysgu darllen iaith ysgrifenedig sy'n defnyddio gwyddor.[6]
Y ddamcaniaeth brosesu clywedol chwim
[golygu | golygu cod]Yn ôl y ddamcaniaeth hon, deall synau byr sy'n newid yn sydyn yw'r prif anhawster.[7]
Y ddamcaniaeth weledol
[golygu | golygu cod]Tardda'r ddamcaniaeth hon o'r arfer o ystyried dyslecsia fel nam ar y golwg, sy'n achosi anawsterau wrth brosesu llythrennau a geiriau.[8]
Y ddamcaniaeth serebelaidd
[golygu | golygu cod]Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae nam ar cerebelwm pobl ddyslecsig. Mae gan y cerebelwm ran mewn rheolaeth symud, ac felly mewn cynhyrchu sain: honnir fod nam ar y lleferydd yn gallu achosi nam ar y sillafu. Yn ogystal, mae'r cerebelwm yn ein galluogi i weithredu'n awtomatig wrth yrru, teipio, darllen ac yn y blaen: fe all hyn egluro'r anawsterau wrth ddysgu'r gyfatebiaith graffem/ffonem.[8]
Y ddamcaniaeth osgoi sŵn gweledol
[golygu | golygu cod]Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae gan bobl ddyslecsig nam ar eu gallu i osgoi sŵn gweledol (hynny yw, anwybyddu gwrthdyniadau synhwyrol).[9]
Ffactorau genynnol
[golygu | golygu cod]Mae ymchwil wedi cysylltu sawl ffurf o ddyslecsia â nodwyr genynnol.[10]
Ers 2007, adnabu ymchwil enynnol naw ardal cromosom a all fod â chysylltiad â dyslecsia.[11]
Ffisioleg
[golygu | golygu cod]Cynhyrchwyd tystiolaeth fod gwahaniaethau strwythurol yn ymenyddiau plant sydd ag anawsterau darllen, gan ddefnyddio technegau megis fMRI a PET.[12][13]
Effaith orgraff yr ieithoedd a ddysgir
[golygu | golygu cod]Daeth sawl darn o ymchwil i'r casgliad fod y sawl sy'n siarad ieithoedd sydd â pherthynas cyson iawn rhwng graffem (llythyren) a ffonem (sain) - megis Eidaleg a'r Gymraeg - yn dioddef llai o effeithiau dyslecsia na'r sawl sy'n siarad ieithoedd llai cyson eu horgraff megis Saesneg a Ffrangeg.[14]
Ond nid mympwy'r orgraff sy'n achosi dyslecsia: honnir fod dyslecsia siaradwyr Almaeneg ac Eidaleg yr un fath â dyslecsia siaradwyr Saesneg, gan gyd-fynd ag eglurad biolegol i ddyspracsia. Effeithiau'r cyflwr sy'n dibynnu'n rhannol ar amgylchedd ieithyddol.[15]
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Gwnaed diagnosis ffurfiol gan berson cymwysiedig, megis nwrolegydd neu seicolegydd addysg. Profir gallu darllen, ynghyd â medrau enwi chwim, darllen an-eiriol, a weithiau prawf IQ cyffredinol. Ond awgryma ymchwil na ddylid defnyddio'r cyfeiliornad rhwng IQ a lefel darllen wrth benderfynu ar ddiagnosis.[16] Yn aml, ceir profion rhyngddisgybliaethol er mwyn sicrhau nad oes achos arall i'r anawsterau darllen.
Pwyntiau cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gall bobl â dyslecsia:
- Fod yn glyfar, deallus a chroyw eu hiaith lafar (ond mae eu lefel darllen, ysgrifennu a sillafu yn is na'r disgwyl).
- Fod â chyflawniad addysgol gwael achos o'u hanawsterau.
- Deimlo'n anneallus a dihyder, a theimlo rhwystredigaeth tuag at waith ysgol.
- Guddio eu gwendidau darllen drwy fabwysiadu strategaethau adfer.
- Ddysgu'n well drwy brofiad ymarferol, arddangos, arbrofi ac arsylwi.
- Ddangos llwyddiant mewn meysydd eraill.
- Gael problemau perthynol gyda thalu sylw mewn cyd-destun ysgol.
Lleferydd, clywed a gwrando
[golygu | golygu cod]Gall ohirio ar siarad fod yn arwydd cynnar o ddyspracsia. Mae gan lawer o bobl ddyslecsig broblemau prosesu synau cyn ceisio cynhyrchu'u synau'u hunain. Gall atal dweud a chlystyru fod yn arwydd cynnar yn ogystal. Gall siarad yn glir fod yn broblem i rywun dyslecsig: gallent ddrysu synau mewn geiriau aml-sill (e.e. afinail yn lle anifail, basgeti yn lle sbageti ac yn y blaen).[17] [18]
Darllen a sillafu
[golygu | golygu cod]Gwelir:
- Gwallau sillafu.
- Drysu trefn llythrennau.
- Sillafu gor-ffonetig (e.e. sillafu Saesneg yn Gymraeg: try "I should eat" yn "Ai shwd it").
- Cof tymor hir da - gallu cofio cynnwys llyfrau-dysgu-darllen heb allu darllen geiriau unigol.
- Geirfa ysgrifenedig fach o gymharu â'r eirfa lafar.
Gallu mathemategol
[golygu | golygu cod]Ni ddylid drysu dyslecsia â dyscalcwla. Gall bobl ddyslecsig fod yn alluog yn fathemategol. Ond fe allent gael trafferth â phroblemau geiriol, cofio ffeithiau mathemategol (megis tablau lluosi), neu gofio trefn rhifau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A Conversation with Sally Shaywitz, M.D., Author of Overcoming Dyslexia.
- ↑ Uber Dyslexie, Cyfrol 15, tud. 276-278
- ↑ Margaret J. Snowling (1996-11-02). Dyslexia: a hundred years on. BMJ.
- ↑ J Hinshelwood (1917). Congenital Word-blindness. HK Lewis & Co. Ltd.
- ↑ J.T. Dalby (1986). An ultimate view of reading ability, Cyfrol 30, Rhifyn 3. Gordon and Breach, Science Publishers, Inc., tud. 227-230
- ↑ Franck Ramus et al (Ebrill 2003). Theories of developmental dyslexia: insights from a multiple case study of dyslexic adults, Cyfrol 126, Rhifyn 4. Oxford University Press, tud. 841-865. URL
- ↑ Beverly Wright et al (1997). Deficits in auditory temporal and spectral resolution in language-impaired children, Cyfrol 387, tud. 176-8. URL
- ↑ 8.0 8.1 ibid
- ↑ Anne J. Sperling et al (2006). Motion-Perception Deficits and Reading Impairment: It's the Noise, Not the Motion, Cyfrol 17, Rhifyn 12. Association for Psychological Science, tud. 1047-1053. URL
- ↑ (Ionawr 2001) Developmental dyslexia: an update on genes, brains, and environments, Cyfrol 42, Rhifyn 1, tud. 91-125
- ↑ Johannes Schumacher et al (16 Chwefror 2007). Genetics of dyslexia: the evolving landscape, Cyfrol 44. BMJ Publishing Group, tud. 289-297. URL
- ↑ Fan Cao et al (Tachwedd 2006). Deficient orthographic and phonological representations in children with dyslexia revealed by brain activation patterns, Cyfrol 47, tud. 1041-1050. URL
- ↑ B.A. Shaywitz et al (2006). The role of functional magnetic resonance imaging in understanding reading and dyslexia. URL
- ↑ Scientists Say Severity of Dyslexia Depends on Language. Los Angeles Times (16 Mawrth 2001).
- ↑ Johannes C. Ziegler et al. Developmental dyslexia in different languages: Language-specific or universal?, tud. 169–193. URL
- ↑ Jack M. Fletcher et al (Tachwedd 1992). The validity of discrepancy-based definitions of reading disabilities, Cyfrol 25, Rhifyn 9, tud. 555-61, 573. URL
- ↑ Questionnaire: Dyslexia & Vision. Stephen Wilcox Optometrists.
- ↑ Louise Brazeau-Ward (2005). Dyslexia and University. ISBN 1-894964-71-3. URL