Neidio i'r cynnwys

Gafr

Oddi ar Wicipedia
Geifr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Caprinae
Genws: Capra
Rhywogaeth: C. aegagrus
Isrywogaeth: C. a. hircus
Enw trienwol
Capra aegagrus hircus
(Linnaeus, 1758)

Mae'r afr yn anifail gwyllt, pedair coes (enw Lladin: Capra hircus) sy'n dod o Asia a dwyrain Ewrop yn wreiddiol. Ceir geirf dof hefyd a megir y rhain ers tua 10,000 o flynyddoedd am eu croen a'u cig a defnyddir llaeth gafr i wneud caws. Dofwyd geifr yn gynharach na gwartheg a defaid.

Yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru, hyd at y 16g, mae'n bosib fod mwy o eifr nag o ddefaid a gwartheg. Gwnaed caws o'u llaeth a chŵyr o'u saim ac arferwyd sychu eu cig er mwyn ei gadw dros y gaeaf. Yn yr 1970au daeth yr afr yn ôl mewn ffasiwn gan dyddynwyr Cymru, oherwydd y diwydiant caws llwyddiannus a'r syniad o fod yn hunangynhaliol.

Geifr gwyllt ar glogwynni Tryfan.

Yn Eryri a rhai mannau eraill, ceir geifr gwyllt a cheir geifr Cashmir ar Ben y Gogarth (Llandudno) ers y 19g.

Ysgrifennodd Gerallt Gymro yn 1188 fod mynyddoedd Eryri'n llawn geifr a defaid, a than y 16g y geifr oedd fwyaf cyffredin yno. Gwneid caws o'u llefrith, canhwyllau o'u braster, a sychid eu cig, “coch yr wden”, ar gyfer y gaeaf. Trwy bori'r creigleoedd cadwai'r geifr y gwartheg o leoedd peryglus.

Lleihaodd cadw geifr gyda dirywiad y gyfundrefn hafod a hendre a chau tiroedd comin pan gyflwynwyd diadelloedd enfawr o ddefaid i'r mynydd-dir yn y 18g. Parhaodd rhai ffermydd i gadw niferoedd bychain o eifr gyda'u gwartheg i'r 1950au, am eu caws ac am y credid yr arbedid y gwartheg rhag erthylu.

Yng nghreigleoedd Eryri erys diadelloedd o eifr sy'n ddisgynyddion o'r geifr dof gwreiddiol ond fu'n byw yn wyllt ers amser maith.

O'r geifr Kashmir gyflwynwyd i'r Gogarth yn y 19g y daw masgotiaid y Ffiwsilwyr Gymreig.

Llên gwerin

[golygu | golygu cod]
  • Ceir cân werin Gymraeg byrlymus a hwyliog o'r enw "Cyfri'r Geifr" neu "Oes Gafr Eto?".
  • Dyma englyn gan Ceiriog i’r afr na ddylid ei adrodd yn uchel os oes gennych chi ddannedd gosod :
Yr Afr
Ar grugrgroen yr hagr grogrgraig – a llamsach
Hyd hell lemserth lethrgraig,
Ochrau neu grib uchran y graig,
Grothawg-grib ar greithiog-graig.[1]

Geifr dof, fferal a gwyllt,

[golygu | golygu cod]

Cafodd yr afr wyllt Capra hircus ei hyweddu (domesticate) gyntaf mae'n debyg yn Oes y Neolithig yn ardal y Cilgant Ffrwythlon, yr Irac fodern. Fe ddaeth gyda'r bobl hynny, pobl yr Oes Cerrig Newydd, i Ewrop a'r gorllewin fel anifail fferm yn darparu tannwydd (bloneg), croen, llaeth a chynhyrchion y llaethdy, a chig. Fe barhaodd yn y cyflwr yna hyd yn weddol ddiweddar ar ffermydd mynydd tlawd Cymru. Dyma gofnod o ddyddlyfr Owen Edwards 1820 o ardal Penmorfa, Tremadog: "Dydd Mercher: Diwrnod lled oer yn Meirioli ac yn llithrig iawn. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy Newydd i’r Gelli wastad. Owen yn nol y Geifr o Greigiau Tanrallt yn dechreu rhewi cyn nos.” Doedd y tywydd oer ddim yn rhwystro OE rhag anfon Owen arall (mab mae’n debyg, neu was?) i nôl y geifr o greigiau cyfagos. Y diwrnod wedyn, 20 Ionawr cofnododd: “Dydd Iau, 19 Ionawr. Diwrnod teg distaw wedi rhewi’n bur galed ac yn llithrig iawn. Y Meibion un yn golchi’r Buchod rhag llau a’r llall yn cneifio’r Dynewid [heffrod]. Yn gwerthu Bwch gafr a thri o Funod i Sion Morris am Ddeg swllt ar hugain” (sef £1/10/-, 7 swllt+ yr un)". Mae'r pris yn cymharu'n ffafriol â phris maharen neu hwrdd ar y pryd [2].

Mae'n debyg mai dyma'r cyfnod y bu i'r geifr fferm hyn raddol ddianc a throi yn ôl i'r gwyllt, mewn geiriau eraill, troi yn "fferal". Eu disgynyddion yw'r 'geifr gwyllt' sydd ar fynyddoedd Eryri heddiw (y Rhinogydd, y Glyderau, y Carneddau a'r Wyddfa). Mae mân yrroedd hefyd ar Yr Eifl, Rhobell Fawr a Chraig yr Aderyn, yn Nyffryn Dysynni. Cafodd llawer hefyd eu difa gan y War Ag yn ystod yr ail ryfel byd [2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Berwyn Prys-Jones trwy law Galwad Cynnar BBC Radio Cymru
  2. Whitehead, G.K. (1972) The Wild Goats of Great Britain and Ireland Cyh. David & Charles [1]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am gafr
yn Wiciadur.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy