Gorsaf Ofod Ryngwladol
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf ofod, space laboratory, lloeren artiffisial o'r Ddaear |
---|---|
Màs | 419,725 cilogram |
Dechrau/Sefydlu | 20 Tachwedd 1998 |
Lleoliad | geocentric orbit |
Yn cynnwys | Zarya, Unity, Zvezda, Destiny, Quest Joint Airlock, Pirs, Harmony, Columbus, Kibo, Poisk, Tranquility, Cupola, Rassvet, Integrated Truss Structure, Leonardo, Canadarm2, ExPRESS Logistics Carrier, Dextre, Mobile Servicing System, Power Data Grapple Fixture, Strela, External Stowage Platform, Bigelow Expandable Activity Module, Nauka, Prichal |
Gweithredwr | NASA, Roscosmos State Corporation, Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Japan Aerospace Exploration Agency, Asiantaeth Ofod Canada |
Rhagflaenydd | Space Station Freedom |
Rhanbarth | Unol Daleithiau America, Rwsia, Japan, Canada, Ewrop |
Hyd | 66.4 metr |
Echreiddiad orbital | 0.0010107 |
Gwefan | https://www.nasa.gov/international-space-station/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gorsaf Ofod Ryngwladol (Saesneg: International Space Station, ISS, Rwsieg: Междунаро́дная косми́ческая ста́нция, МКС) yw enw'r unig orsaf ofod sydd yn y gofod heddiw. Lloeren artiffisial ydyw wedi'i llunio ar ffurf nifer o fodiwlau a gellir ei gweld yn y cyfnos gyda'r llygad noeth; dyma'r gwrthrych artiffisial mwyaf sy'n cylchu'r Ddaear. Mae llawer o wledydd wedi cyd-weithio er mwyn adeiladu'r orsaf, gan gynnwys Rwsia gyda'i roced Proton a Soyuz, yr Unol Daleithiau gyda'r wennol ofod, Siapan, Canada, a'r gwledydd sy'n aelodau o'r ESA (Sefydliad Gofod Ewropeaidd (European Space Agency).[1]
Lansiwyd y modiwl cyntaf yn 1998. Mae'r ISS, fel y caiff ei hadnabod, yn cynnwys elfen fechan o ddisgyrchiant a'i phwrpas yw caniatáu i ofodwyr oddi mewn iddi gynnal arbrofion mewn bioleg, bioleg dynol, ffiseg, seryddiaeth, meteroroleg a meysydd eraill.[2][3]
Profodd y gwaith ymchwil hyd yma fod effaith tymor hir byw mewn man heb ddisgyrchiant yn gwanhau cyrff y gofodwyr: atroffi'r cyhyrau a lleihau'r esgyrn er enghraifft. Bydd canlyniadau'r gwaith ymchwil a'r holl ddata'n cael eu defnyddio i benderfynu a yw byw ar roced heb ddisgyrchiant ar daith tymor hir (e.e. taith 6-mis i'r Blaned Mawrth) yn bosibl. Hyd yma, canfuwyd fod cryn risg i'r gofodwr gyda thorri esgyrn a chyfyngiadau o ran symud y corff yn debygol.[4][5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ["Central Research Institute for Machine Building (FGUP TSNIIMASH) Control of manned and unmanned space vehicles from Mission Control Centre Moscow". Asiantaeth Ffedral y Gofod, Rwsia. Adalwyd 5 Mawrth 2015
- ↑ "International Space Station Overview". ShuttlePressKit.com. 3 Mehefin 1999. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
- ↑ "Fields of Research". NASA. 26 Mehefin 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2008. Cyrchwyd 5 Mawrth 2015.
- ↑ Jay Buckey (23 Chwefror 2006). Space Physiology. Oxford University Press USA. ISBN 978-0-19-513725-5.
- ↑ List Grossman (24 Gorffennaf 2009). "Ion engine could one day power 39-day trips to Mars". New Scientist. Cyrchwyd 8 Ionawr 2010.