Neidio i'r cynnwys

Grayson Perry

Oddi ar Wicipedia
Grayson Perry
Grayson Perry yn 2007
LlaisGrayson perry in the reith lectures b03969vt.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd24 Mawrth 1960 Edit this on Wikidata
Chelmsford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Portsmouth
  • King Edward VI Grammar School, Chelmsford
  • Braintree College Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, gwneuthurwr printiau, seramegydd, gwneuthurwr ffilm, brodiwr, arlunydd graffig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWalthamstow Tapestry Edit this on Wikidata
Arddullcelf ffigurol Edit this on Wikidata
Mudiadcelf gyfoes Edit this on Wikidata
PriodPhilippa Perry Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Turner, Gwobr Erasmus, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts Edit this on Wikidata

Arlunydd o Loegr yw Grayson Perry (ganwyd 24 Mawrth 1960) sydd yn fwyaf adnabyddus am ei waith seramig a'i croes-wisgo. Mae'n gweithio gyda nifer o gyfryngau. Mae gan fasys Perry ffurfiau clasurol sydd wedi eu haddurno gyda lliwiau llachar, yn darlunio testunau sydd yn cyferbynnu â'u golwg atyniadol, h.y., camdriniaeth plant a sado-masochistiaeth. Mae elfen hunanfywgrafiadol gref yn ei waith, mae delweddau o Perry fel "Claire", ei alter-ego benywaidd, yn ymddangos yn aml. Enillodd y Wobr Turner yn 2003 am ei waith serameg, derbyniodd y wobr wedi ei wisgo fel Claire.

Ganwyd Grayson Perry yn Chelmsford ar 24 Mawrth 1960. Gadawodd ei dad y teulu ohwerydd godineb ei fam pan oedd yn saith oed. Mae Perry'n disgrifio ymadawiad ei dad fel y digwyddiad sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arno yn ei fywyd.[1] Yn ddiweddarach, bu'n byw ym Micknacre, Essex, gyda'i fam a'i lysdad, mynychodd ei chwaer fach a'i ddau lysfrawd ysgol yr eglwys yn Lloegr Woodham Ferrers.

Yn ystod ei blentyndod, cymerodd Perry ddiddordeb mewn darlunio ac adeiladu awyrennau model, mae'r ddau ddiddordeb yn parhau i fod yn thêmau yn ei waith.[2] Er mwyn dianc sefyllfa deuluodd anodd a thrais ei lysdad, enciliodd iw lofft neu i sied ei dad lle bu'n colli ei hun mewn bywyd ffantasi, weithiau yn ymwneud â arth a ddaeth yn "ffigwr tadol surrogate”.[1]

Addysgwyd yn King Edward VI Grammar School. Roedd gan Perry ddiddordeb yng ngweithgareddau traddodiadol bechgyn megis awyrennau model, beiciau modur a merched.[1] Roedd yn aelod o Combined Cadet Corps yr ysgol ac roedd eisiau hyfforddi i fod yn swyddog yn y fyddin. Bu hefyd yn ymwneud â sîn pync Chelmsford yn ystod yr 1970au hwyr.

Ar yr un adeg roedd yn cael ffantasiau ac awydd rhywiol anghonfensiynol. Mae'n disgrifio ei brofiad rhywiol cyntaf pan fu iddo glymu ei hun i fyny yn ei byjamas pan oedd yn saith oed. Bu'n mwynhau gwisgo dillad merched o oedran cynar[1] a sylweddolodd ei fod yn transvestite pan oedd yn ei arddegau. Symudodd i mewn gyda teulu ei dad yn Chelmsford pan oedd yn 15 oed, a dechreuodd fynd allan wedi ei wisgo fel merch. Pan ddarganfuwyd ef gan ei dad dywedodd y buasai'n stopio, ond dywedodd ei lysfam wrth bawb am hyn cyn ei daflu o'r tŷ ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Dychwelodd i fyw at ei fam a'i lysdad yng Ngreat Bardfield.

Penderfynnodd beidio ymuno â'r fyddin, ac yn dilyn annogaeth ei athro celf, penderfynnodd astudio celf.[1] Dilynodd gwrs sylfaen celf yng Ngholeg Addysg Bellach Braintree o 1978 hyd 1979. Astudiodd Baglor y Celfeddydau mewn celfyddyd gain yn Portsmouth Polytechnic, gan raddio ym 1982.[3] Roedd ganddo ddiddordeb mewn ffilm a arddangosodd ei ddarn cyntaf o grochenwaith yn sioe "New Contemporaries" yr Institute of Contemporary Arts ym 1980. Yn y misoedd wedi iddo raddio, ymunodd â'r grŵp "Neo-Naturists", a sefydlwyd gan Christine Binnie er mwyn adfywio "gwir ysgryd y chwedegau – sy'n ymwneud â byw eich bywyd yn fwy neu lai'n noeth gan ddangos hyn ar adegau mewn perfformiadau â phaent corff yn brif thema”.[4] Cynhaliwyd digwyddiadau mewn orielau a mannau eraill.

Pan aeth i Portsmouth ym 1979, dywedodd ei lysdad wrtho beidio a dychwelyd adref. Cyfarfu â'i wraig Philippa (née Fairclough) ym 1986.[5] Dieithrwyd Perry o'i fam ers 1990. Wedi graddio bu'n byw o'i law iw geg mewn sgwatiau, ar un adeg bu'n rhannu tŷ â'r hetiwr Stephen Jones a'r cerddor Boy George; a bu'r tri yn cystadlu i weld pwy allai wisgo'r dillad mwyaf gwarthus i Blitz, clwb nos New Romantic yn Covent Garden, Llundain.[6]

Enillodd Wobr Erasmus ym 2021.[7]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Walsh, Susan (2016). A Class Act: Class and Taste in the Work of Grayson Perry. Prifysgol Hull.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Wendy Jones (2006). Grayson Perry - Portrait of the Artist as a Young Girl. Llundain: Chatto & Windus. ISBN 0701178930
  2. Grayson Perry: guerrilla tactics, Amgueddfa Stedelijk, Amsterdam, 2002
  3. Wilson, Andrew. Grayson Perry: General Artist
  4. Dawson, tud. 81
  5. Jessica Berens (21 Medi 2003). "Frock tactics". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2021.
  6.  Roya Nikkhah (26 Tachwedd 2008). And Now For Stephen Jones's Crowning Glory. The Independent.
  7. (Saesneg) "Laureate 2021: Grayson Perry". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 6 Mawrth 2021. Cyhoeddwyd y wobr yn wreiddiol ar gyfer 2020, ond fe'i gohiriwyd i 2021 oherwydd cyfyngiadau Covid-19: gweler Annual Report Erasmus Prize: Grayson Perry

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy