Neidio i'r cynnwys

Hanes Gwlad y Basg

Oddi ar Wicipedia
Derwen Gernika, symbol o hanes y Basgiaid

Hanes Gwlad y Basg yw hanes y saith talaith draddodiadol sy'n ffurfio Gwlad y Basg (Euskal Herria), sydd bellach wedi eu rhannu rhwng Ffrainc a Sbaen.

Cred rhai mai'r Basgiaid yw gweddillion trigolion gwreiddiol Gorllewin Ewrop, gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i'r cyfnod Paleolithig, cyn dyfodiad mewnfudwyr o'r dwyrain yn dwyn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Cyfeiria awduron clasurol megis Strabo a Plinius yr Hynaf at lwythau megis y Vascones a'r Aquitani yn byw yn y tiriogaethau hyn, ac mae rhywfaint o dystiolaeth eu bod eisoes yn siarad Basgeg.

Yn y Canol Oesoedd cynnar, adwaenid y diriogaeth rhwng Afon Ebro ac Afon Garonne fel Vasconia, ac am gyfnodau bu yn annibynnol dan Ddugiaid Vasconia. Rhannwyd y diriogaeth yn dilyn concwest y rhan fwyaf o Benrhyn Iberia gan y Mwslemiaid ac ymestyniad teyrnas y Ffranciaid tua'r de dan Siarlymaen. Ymladdwyd Brwydr Ronsyfal ym Mwlch Ronsyfal, ar y ffin rhwng Sbaen a Ffrainc, ar 15 Awst 778, rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a byddin y Basgiaid. Lladdwyd Rolant a'i wŷr yn y frwydr.

Yn y 9g, Teyrnas Pamplona oedd y grym mwyaf yn yr ardal, a datblygodd Teyrnas Navarra o'r deyrnas yma'n ddiweddarach. Ym mlynyddoedd cynnar y 16g, unwyd rhan ddeheuol y deyrnas yma a Theyrnas Castilla, tra daeth y rhan ogleddol yn rhan o Ffrainc.

Roedd gan y taleithiau Basgaidd fesur helaeth o hunanlywodraeth yn Sbaen a Ffrainc am gyfnod. Daeth hyn i ben yn Ffrainc yn dilyn Chwyldro Ffrainc, ac yn Sbaen yn dilyn y Rhyfeloedd Carlaidd yn rhan gyntaf y 19g. Crewyd gwladwriaeth Fasgaidd hunanlywodraethol am gyfnod yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, pan ddaeth José Antonio Aguirre yn lehendakari (Arlywydd) cyntaf Gwlad y Basg, gan gymeryd y llŵ traddodiadol dan y dderwen yn Gernika. Ffurfiwyd llywodraeth Fasgaidd a byddin Fasgaidd, Euzko Gudarostea, ond dim ond y tair talaith orllewinol roedd yn eu rheoli; roedd mwy o gefnogaeth i Francisco Franco yn Navarra. Parhaodd yr ymladd yng Ngwlad y Basg hyd 1937, pan gipiwyd Bilbo gan fyddin Franco ym mis Mehefin.

Yn y cyfnod diweddar, mae Cenedlaetholdeb Basgaidd yn anelu at uno'r saith talaith yn wladwriaeth annibynnol.

pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy