Ivana Trump
Ivana Trump | |
---|---|
Ganwyd | Ivana Maria Zelníčková 20 Chwefror 1949 Zlín |
Bu farw | 14 Gorffennaf 2022 o disgyn Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Tsiecoslofacia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, entrepreneur, sgiwr, nofelydd, llenor, hunangofiannydd, cynllunydd, Sgïwr Alpaidd, rheolwr gwesty |
Taldra | 1.82 metr |
Pwysau | 74 cilogram |
Tad | Miloš Zelníček |
Mam | Marie Zelníčková |
Priod | Alfred Winklmayr, Donald Trump, Riccardo Mazzucchelli, Rossano Rubicondi |
Plant | Donald Trump Jr., Ivanka Trump, Eric Trump |
Llinach | Trump family |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod Za zásluhy |
Chwaraeon |
Awdures a chyn-fodel ac entrepreneur Tsiec-Americanaidd oedd Ivana Marie Trump (née Zelníčková; Tsiec: [ˈzɛlɲiːtʃkovaː], 20 Chwefror 1949 – 14 Gorffennaf 2022). Hi oedd gwraig cyntaf Donald Trump, cyn-Arlywydd Unol Daleithiau America; mae Donald Trump Jr., Ivanka Trump ac Eric Trump yn blant iddi.[1][2][3][4][5]|
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ivana Zelníčková ar Chwefror 20, 1949 yn nhref Morar (Gottwaldov gynt), Tsiecoslofacia. Roedd yn ferch i Miloš Zelníček (1927–1990) a Marie Zelníčková (g. Francová). Pan oedd yn 13 oed, fe wnaeth ei thad feithrin ynddi ei thalent sgïo. Ar ddechrau'r 1970au, aeth i Brifysgol Charles ym Mhrâg.[6][7][8][9]
Yn ôl Trump, fe'i dewiswyd yn ail-ddewis i dîm sgïo Tsiecoslofacia yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf 1972, gan arbenigo mewn allt a slalom.[10] Fodd bynnag, yn 1989, dywedodd Petr Pomezný, Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Olympaidd Tsiecoslofacia, "Pwy yw'r fenyw Ivana hon, a pham mae pobl yn parhau i'n holi amdani? Nid oes merch o'r fath yn ein cofnodion."[11]
Yn 1971, priododd Zelníčková hyfforddwr sgïo Awstriaidd Alfred Winklmayr i gael dinasyddiaeth Awstria er mwyn iddi allu gadael Tsiecoslofacia Comiwnyddol.[12][13][14] Derbyniodd ei phasbort Awstriaidd ym mis Mawrth 1972 ac arno yr enw Ivana Winklmayr. Yn 1973 ysgarodd y ddau yn Los Angeles, California, lle'r oedd wedi symud i ddysgu sgïo.[12][13][15] Ar ôl marwolaeth ei chariad George (Jiři) Staidl mewn damwain car yn 1973, symudodd Ivana i Ganada lle bu'n byw gyda George (Jiři) Syrovatka yr oedd hi wedi ei ganlyn ers 1967; roedd wedi dianc i Ganada yn 1971 ac roedd yn berchen ar siop sgïo ym Montreal.[16] Am y ddwy flynedd ddilynol, bu'n byw ym Montreal, gan wella ei Saesneg trwy ddilyn cyrsiau nos ym Mhrifysgol McGill, a gweithio fel model. Roedd ei swyddi modelu yn cynnwys hyrwyddo Gemau Olympaidd yr Haf 1976 a gynhaliwyd ym Montreal.[9][17]
Yn y swydd hon roedd Ivana yn Ninas Efrog Newydd gyda grŵp o fodelau ym 1976 lle cyfarfu â Donald Trump. Priododd Donald Trump ac Ivana M. Winklmayr ym 1977.[17]
Bu farw yn 73 mlwydd oed ar 14 Gorffennaf 2022.[18]
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o The Trump Organization am rai blynyddoedd. [19]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Teilyngdod Za zásluhy .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Disgrifiwyd yn: http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Trumpova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat. http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Zelnickova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat. nodwyd fel: Ivana Zelnickova.
- ↑ Dyddiad geni: "Ivana Trump". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Trump". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Trumpova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat. http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Zelnickova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat.
- ↑ Dyddiad marw: https://thehill.com/blogs/in-the-know/3559824-trump-announces-death-of-first-wife-ivana/. Anna Tørmoen; Kristoffer Solberg (14 Gorffennaf 2022). "Ivana Trump er død" (yn Bokmål). Verdens Gang. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2022.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Man geni: http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Trumpova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat. http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Zelnickova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat.
- ↑ Achos marwolaeth: https://www.bbc.com/mundo/noticias-internacional-62172997. dyddiad cyrchiad: 16 Gorffennaf 2022.
- ↑ Hurt III 1993, t. 96.
- ↑ "Extchyně amerického prezidenta Marie Zelníčková (92) ze Zlína: Trump mi říká bábrle!". Blesk.cz. 23 Hydref 2018. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
- ↑ "Marie Zelníčková (born Francová)". myheritage.com. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
- ↑ 9.0 9.1 Prachi Gupta, "6 Things You Need to Know About Donald Trump's First Wife, Ivana". Cosmopolitan. 16 Mawrth 2017. Adalwyd 1 Hydref 2017.
- ↑ Bell, B., "They met, they saw and they conquered: Donald and Ivana Trump seemed to have it all", Daily News|location=New York, 11 Chwefror 1990.
- ↑ van Meter, Johnathan (Mai 1989). "That's Why the Lady is a Trump". Spy. Sussex Publishers, LLC. ISSN 0890-1759. Cyrchwyd Mehefin 30, 2013 – drwy Google Books.
- ↑ 12.0 12.1 Hurt III 1993, t. 99.
- ↑ 13.0 13.1 Lague, Louise (March 19, 1990). "Ivana Alone". People Magazine. Cyrchwyd November 4, 2018.
- ↑ McCauley, Dana (Calan Mai 2016). "This is the woman who made Donald Trump a household name". People Magazine. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Conconi, Chuck (22 Chwefror 1990). "PERSONALITIES". Cyrchwyd 22 Tachwedd 2017 – drwy www.WashingtonPost.com.
- ↑ Burleigh 2018, t. 82.
- ↑ 17.0 17.1 Gross, Michael (15 Hydref 1990). "Ivana's New Life". New York Magazine. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Ivana Trump, Donald Trump's first wife, dies at 73 (en) , BBC News, 14 Gorffennaf 2022.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.