Ivor Roberts-Jones
Ivor Roberts-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 2 Tachwedd 1913 Croesoswallt |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1996 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerflunydd |
Adnabyddus am | Statue of Winston Churchill |
Cerflunydd o Gymru oedd Ivor Roberts-Jones (2 Tachwedd 1913 - 9 Rhagfyr 1996). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerflun yn Harlech yn darlunio Bendigeidfran a Gwern o chwedl Branwen ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi.
Ganed ef yng Nghroesoswallt, yn fab i gyfreithiwr. Astudiodd gelf yng ngholeg Goldsmith yn Llundain, yna i Ysgol Gerflunio'r Academi Frenhinol. Yn ddiweddarach, bu'n bennaeth Adran Gerflunio Coleg Goldsmiths o 1964 hyd 1978. Ymysg ei weithiau mwyaf nodedig mae cofeb i Augustus John yn Fordingbridge a chofeb Winston Churchill yn Llundain.
Comisiynwyd ef gan Adran Henebion y Swyddfa Gymreig i greu cerflun ger Castell Harlech i adlewyrchu chwedl Breanwen ferch Llŷr yn 1979, ac fe'i cwblhawyd yn 1983, gyda'r teitl "Y Ddau Frenin". Mae'n darlunio Bendigeidfran ar gefn ceffyl, yn cario corff ei nai, Gwern.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Peter Cannon-Brookes Ivor Roberts-Jones: y daith i Harlech / The journey to Harlech (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1983)