Luis Echeverría
Luis Echeverría | |
---|---|
Portread swyddogol yr Arlywydd Luis Echeverría (1970). | |
Ganwyd | 17 Ionawr 1922 Dinas Mecsico |
Bu farw | 8 Gorffennaf 2022 Cuernavaca |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr |
Swydd | Arlywydd Mecsico |
Plaid Wleidyddol | Plaid Chwyldroadol Genedlaethol |
Priod | María Esther Zuno |
Gwobr/au | Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Order of Jamaica, Urdd y Baddon, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal |
Gwleidydd, cyfreithiwr, ac academydd o Fecsico oedd Luis Echeverría Álvarez (ynganiad Sbaenaidd: [ˈlwis etʃeβeˈri.a ˈalβaɾes]; 17 Ionawr 1922 – 8 Gorffennaf 2022)[1] a wasanaethodd yn Arlywydd Mecsico o 1970 i 1976, fel aelod o'r Partido Revolucionario Institucional (PRI).
Ganed ef yn Ninas Mecsico, a derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Mewnwladol gan yr Arlywydd Adolfo López Mateos ym 1963, a pharhaodd yn y swydd honno yng nghabinet Gustavo Díaz Ordaz o 1964 i 1969. Gwrth-gomiwnydd pybyr ydoedd, ac hysbyswr gyda chysylltiad â'r CIA ers amser hir; fe'i adwaenir gan yr enw cudd LITEMPO-8.[2] Nodweddwyd ei gyfnod yn swydd yr Ysgrifennydd Mewnwladol gan gynnydd mewn gormes gwleidyddol. Cafodd newyddiadurwyr, gwleidyddion, ac ymgyrchwyr gwrthwynebol eu sensro, eu harestio, a'u harteithio, a chyflawnwyd dienyddiadau y tu hwnt i awdurdod y gyfraith. Ar 2 Hydref 1969, llofruddiwyd cannoedd o brotestwyr yng nghyflafan Tlatelolco, gan ddifetha'r mudiad myfyrwyr ym Mecsico. Mae'n debyg yr oedd Díaz Ordaz, Echeverria, a'r Ysgrifennydd Amddiffyn Marcelino Garcia Barragán yn gyfrifol am awdurdodi'r lladdfa.
Cyhoeddwyd Echeverría yn olynydd dynodedig Díaz Ordaz, ac enillodd 86% o'r bleidlais yn yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd yng Ngorffennaf 1970. Fe'i urddwyd yn 57ain Arlywydd Mecsico ar 1 Rhagfyr 1970. Byddai'n un o arweinwyr amlycaf Mecsico ar lwyfan y byd yn ystod y Rhyfel Oer. Er gwaethaf ei daliadau gwrth-gomiwnyddol a'i gysylltiad â'r CIA, ymgeisiodd Echeverría i ennill lle fel un o arweinwyr "y Trydydd Byd", y gwledydd nad oedd yn bleidiol i Unol Daleithiau America na'r Undeb Sofietaidd.[3] Cynigodd loches i Hortensia Bussi, gweddw Salvador Allende, a ffoaduriaid eraill o Tsile a aeth yn alltud yn sgil esgyniad Augusto Pinochet i rym. Teithiodd Echeverría i Weriniaeth Pobl Tsieina a chyfarfu â Mao Zedong a Zhou Enlai yn Beijing, gan sefydlu cysylltiadau diplomyddol rhwng Mecsico a Tsieina.[4] Wedi iddo adael yr arlywyddiaeth ym 1976, ceisiodd ddefnyddio dylanwad Mao yn Asia ac Affrica i gael ei ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ond methodd ennill digon o gefnogaeth.[5] Dirywiodd cysylltiadau rhwng Mecsico ac Israel, a'r garfan Iddewig yn yr Unol Daleithiau, wedi i Echeverría gefnogi Dyfarniad 3379 Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn condemnio Seioniaeth.[6][7]
O ran materion cartref, arweiniodd Echeverría Fecsico yn ystod cyfnod o dwf economaidd sylweddol, ac yn sgil y cynnydd mewn pris olew o ganlyniad i argyfwng 1973 tyfodd economi'r wlad 6.1% y flwyddyn. Hyrwyddodd Echeverría ddatblygu isadeiledd drwy brosiectau megis porthladdoedd newydd yn Lázaro Cárdenas a Ciudad Madero.[8] Parhaodd dulliau gormes ac awdurdodaeth yn ystod ei arlywyddiaeth, gan gynnwys ehediadau'r meirw,[9][10] cyflafan Corpus Christi (1971) yn erbyn myfyrwyr yn protestio, a'r "Rhyfel Brwnt" yn erbyn yr adain chwith (er i Echeverría rethregu fel pe bai'n boblydd adain-chwith).[11][12][13] Ar ddiwedd ei arlywyddiaeth, cafodd Mecsico ei tharo gan argyfwng economaidd o ganlyniad i ddibrisio'r peso.[14]
Yn 2006, cafodd Echeverría ei gyhuddo o gyfrifoldeb am gyflafanau Tlatelolco a Corpus Christi a'i gyfyngu i'w dŷ,[15] ond gwrthodwyd y cyhuddiadau yn 2009.[16] Trodd Echeverría yn ganmlwydd oed ar 17 Ionawr 2022,[17] a bu farw o achosion naturiol yn ei gartref yn Cuernavaca chwe mis yn ddiweddarach.[18] Efe oedd y cyn-arlywydd hynaf yn hanes Mecsico, a'r unig un i gyrraedd 100 oed.[17]
Echeverría ydy un o'r arlywyddion mwyaf dadleuol a lleiaf poblogaidd yn hanes Mecsico. Mae ei gefnogwyr wedi clodfori ei bolisïau poblyddol, gan gynnwys ailddosbarthu tir, ehangu nawdd cymdeithasol, a chyflwyno deddfau cyntaf y wlad i ddiogelu'r amgylchedd. Mae ei wrthwynebwyr wedi beirniadu'r trais a gormes a gyflawnwyd gan y wladwriaeth dan arweiniad Echeverría, yn ogystal â chamreolaeth economaidd ei lywodraeth a'r ymateb i argyfwng ariannol 1976. Mae'r ddrwgdybiaeth o ran Echeverría yng nghyflafan Tlatelolco hefyd wedi difrodi ei enw. Mae nifer o arolygon barn[19] a dadansoddiadau[20][17] wedi rhestru Echeverría ymhlith yr arlywyddion gwaethaf yn hanes modern Mecsico.
Bywyd cynnar ac addysg (1922–45)
[golygu | golygu cod]Ganed Luis Echeverría Álvarez ar 17 Ionawr 1922 yn Ninas Mecsico, yn fab i Rodolfo Echeverría Esparza a Catalina Álvarez Gayoi. Tâl-feistr ym Myddin Mecsico oedd ei dad. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico (UNAM), ac wedi iddo raddio ym 1945 priododd â María Esther Zuno (1924–99), ferch i un o feistri'r PRI.[21] Cawsant wyth o blant.[21]
Gyrfa wleidyddol gynnar (1945–63)
[golygu | golygu cod]Gweithiodd yn adrannau llyngesol ac addysg y llywodraeth cyn cael ei ddyrchafu'n brif swyddog gweinyddol y PRI, ac yn y swydd honno fe drefnodd ymgyrch arlywyddol Adolfo López Mateos ym 1958. Yn ystod arlywyddoaeth López Mateos, gwasanaethodd Echeverría yn Ddirprwy Ysgrifennydd Mewnwladol, yn ail i'r Ysgrifennydd Gustavo Díaz Ordaz.
Ysgrifennydd Mewnwladol (1963–69)
[golygu | golygu cod]Wedi i Díaz Ordaz ymddiswyddo yn Nhachwedd 1963 i ymgyrchu yn yr etholiad arlywyddol nesaf, penodwyd Echeverría i wasanaethu'n bennaeth ar yr Ysgrifenyddiaeth Fewnwladol am weddill tymor yr Arlywydd López Mateos. Enillodd Díaz Ordaz yr etholiad ym 1964, a fe gadwai Echeverría yn Ysgrifennydd Mewnwladol yn y llywodraeth newydd.
Ar 2 Hydref 1968, saethodd saethwyr cudd a gyflogwyd gan y llywodraeth ar fyfyrwyr a oedd yn protestio yn sgwâr Tlatelolco yn Ninas Mecsico, gan ladd cannoedd o bobl. Rhoddodd Echeverría y bai ar faer Dinas Mecsico.
Arlywyddiaeth (1970–76)
[golygu | golygu cod]Ar 10 Mehefin 1971, gŵyl Corpus Christi, ymosodwyd ar brotest o fyfyrwyr gan "Los Halcones", cudd-swyddogion y llywodraeth mewn dillad cyffredin, gan ladd nifer o bobl.
Daeth tymor Echeverría yn yr arlywyddiaeth i ben yn Nhachwedd 1976, a fe'i olynwyd yn y swydd gan ei weinidog ariannol, José López Portillo.
Gyrfa wedi'r arlywyddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd Echeverría yn llysgennad Mecsico i Awstralia a Seland Newydd o 1978 i 1979, ac yn gynrychiolydd Mecsico i UNESCO.
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Bu farw Luis Echeverría ar 8 Gorffennaf 2022 yn Cuernavaca, yn nhalaith Morelos, yn 100 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Muere expresidente Luis Echeverría los 100 años de edad". El Universal. 9 July 2022.
- ↑ "La matanza de Tlatelolco: el controvertido (y poco conocido) papel de la CIA en el conflicto estudiantil de 1968 en México". BBC News Mundo (yn Sbaeneg). 2018-10-02. Cyrchwyd 2023-04-19.
- ↑ Narain Roy, Ash (1999). The Third World in the Age of Globalisation: Requiem Or New Agenda?. Zed Books. t. 56. ISBN 9781856497961.
- ↑ González, Fredy (2017). Paisanos Chinos: Transpacific Politics among Chinese Immigrants in Mexico. University of California Press. t. 177. ISBN 978-0-520-96448-8.
- ↑ "Waldheim is Backed by Security Council for Five Years More". The New York Times. 8 December 1976.
- ↑ "Mexico Votes for General Assembly Resolution Condemning Zionism". Jewish Telegraphic Agency. 17 December 1975. Cyrchwyd 8 March 2018.
- ↑ Riding, Alan (13 December 1975). "Mexico Tells U.S. Jews It Does Not Link Zionism With Racism". The New York Times. Cyrchwyd 8 March 2018.
- ↑ El sexenio de Luis Echeverría Clío, 1999
- ↑ Tobar, Hector (27 February 2006). "New Details of Mexico's 'Dirty War'". Los Angeles Times. Cyrchwyd 24 July 2019.
- ↑ Grindle, Merilee (1977). Policy Change in an Authoritarian Regime: Mexico under Echeverria. Cambridge University Press. tt. 523–555.
- ↑ "Rights group urges Mexico to resolve "dirty war"". Reuters. 5 April 2007. Cyrchwyd 29 October 2016.
- ↑ Evans, Michael. "The Dawn of Mexico's Dirty War". Gwu.edu. Cyrchwyd 29 October 2016.
- ↑ Basurto, Jorge. "The Late Populism of Luis Echeverría". In Latin American Populism in Comparative Perspective, edited by Michael L. Conniff, 93-111. Albuquerque: University of New Mexico Press 1982.
- ↑ Delgado de Cantú, Gloria M. (2003). Historia de México Vol. II. Pearson Educación. tt. 387–388.
- ↑ "Warrant for Mexico ex-president". BBC News. 30 June 2006. Cyrchwyd 11 May 2010.
- ↑ "Exculpa tribunal a Luis Echeverría". La Jornada (yn Sbaeneg). 27 March 2009. Cyrchwyd 8 March 2018.
- ↑ 17.0 17.1 17.2 "Mexico's oldest living ex-president turned 100, but it wasn't widely celebrated". NPR.org. NPR. Cyrchwyd 11 July 2022.
- ↑ Kandell, Jonathan (9 July 2022). "Luis Echeverría Alvarez, Former President of Mexico, Dies at 100". The New York Times. Cyrchwyd 9 July 2022.
- ↑ Beltran, Ulises (29 October 2012). "Zedillo y Fox los ex presidentes de México más reconocidos". Imagen Radio. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2020. Cyrchwyd 26 August 2023.
- ↑ See Martin Walker, "Walker's World: Why President Fox Failed", United Press International, 26 December 2006. "Walker's World: Why President Fox failed - UPI.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 June 2008. Cyrchwyd 11 November 2007.
- ↑ 21.0 21.1 (Saesneg) Gavin O'Toole, "Luis Echeverría obituary", The Guardian (14 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol ar 15 Rhagfyr 2023.
- Genedigaethau 1922
- Marwolaethau 2022
- Academyddion yr 20fed ganrif o Fecsico
- Arlywyddion Mecsico
- Cyfreithwyr yr 20fed ganrif o Fecsico
- Diplomyddion o Fecsico
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o Fecsico
- Gwleidyddion y Partido Revolucionario Institucional
- Gwrth-gomiwnyddion o Fecsico
- Llysgenhadon o Fecsico
- Llysgenhadon i Awstralia
- Llysgenhadon i Seland Newydd
- Pobl a aned yn Ninas Mecsico
- Pobl fu farw ym Morelos
- Pobl ganmlwydd oed