Max Havelaar (cymdeithas)
Enghraifft o: | busnes, menter |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Sylfaenydd | Frans van der Hoff |
Ffurf gyfreithiol | stichting |
Pencadlys | Utrecht |
Gwefan | http://www.maxhavelaar.nl/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymdeithas heb elw yw Max Havelaar, sy'n gosod label ar gynnyrch sy'n ateb safonau rhyngwladol masnach deg. Daw'r enw o'r nofel Max Havelaar (1860) gan Eduard Douwes Dekker (Multatuli), a ysgrifennwyd i dynnu sylw at yr anghyfiawnderau oedd yn cael eu dioddef gan ffermwyr yn yr hyn sy'n awr yn Indonesia.
Gafodd y label "Masnach Deg" ei greu gan Max Havelaar yn yr Iseldiroedd yn yr 1980au.
Dechreuodd Max Havelaar y label gwarant cwsmer cyntaf ar goffi o Fecsico yn 1986. Y nod yw sefydlu rheolau masnach tecach i ganiatáu i weithwyr a chynhyrchwyr tlawd fyw gyda mwy o urddas. Mae'r label "Masnach Deg" hefyd yn ymddangos ar nwyddau fel fanana, ffrwythau sitron, coffi, te, mango, siwgwr, sudd ffrwythau, mêl, byrbrydiau, siocled a coco, rhosynnau, pêl-droed, gwin a chwrw"