Meinir Gwilym
Gwedd
Meinir Gwilym | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mawrth 1983 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon, cerddor, gitarydd |
Arddull | canu gwerin |
Cantores a chyflwynwraig radio o Gymru ydy Meinir Elin Gwilym (ganed 31 Mawrth 1983). Cafodd Meinir ei magu yn Llangristiolus, Ynys Môn. Mae hi'n or-wyres i Ifan Gruffydd, y Gŵr o Baradwys.
Rhyddhaodd ei halbwm cyntaf, Smôcs, Coffi a Fodca Rhad yn 2002. Erbyn hyn mae wedi rhyddhau pedair albwm, i gyd ar label Gwynfryn Cymunedol.
Hyd at 2012 roedd hi'n ohebydd y gogledd ar y rhaglen gylchgrawn ddyddiol Wedi 7 ar S4C.[1] Mae ei chyfnither Lowri Mair Jones hefyd yn gantores boblogaidd.
Erbyn hyn mae'n cyflwyno rhaglen 'Garddio a Mwy' ar S4C yn trafod garddio a byd natur.
Disgograffeg
[golygu | golygu cod]- Smôcs, Coffi, a Fodca Rhad (2002)
- Dim Ond Clwydda (2003)
- Sgandal Fain (2005)
- Tombola (2008)
- Celt (2014)
- Sworn Protector / Rho I Mi (2014)
- Llwybrau (2016)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cytundeb gohebwyr yn dod i ben , Golwg360, 31 Ionawr 2012. Cyrchwyd ar 18 Mawrth 2016.