Neidio i'r cynnwys

NatureScot

Oddi ar Wicipedia
NatureScot
Enghraifft o'r canlynolcorff cyhoeddus anadrannol Edit this on Wikidata
Rhan oLlywodraeth yr Alban Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1990 Edit this on Wikidata
PencadlysInverness Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nature.scot/ Edit this on Wikidata

Mae NatureScot (tan fis Awst 2020 Scottish Natural Heritage; Gaeleg: Buidheann Nàdair na h-Alba) yn awdurdod sy'n gyfrifol am warchod treftadaeth naturiol yr Alban. Fe'i sefydlwyd o dan ei enw blaenorol Scottish Natural Heritage (SNH) o dan Ddeddf Treftadaeth Naturiol (Yr Alban) 1991 a daeth yr asiantaeth yn weithredol yn 1992.[1]. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddwyd y byddai SNH yn cael ei ail-frandio fel NatureScot, fodd bynnag byddai ei bersona cyfreithiol a’i swyddogaethau statudol yn aros heb eu newid. Daeth y newid i rym ar 24 Awst 2020.[2][3]

Mae ffocws NatureScot ar warchod amrywiaeth amgylchedd naturiol yr Alban. Mae'r awdurdod yn cynghori llywodraeth yr Alban ac yn comisiynu mesurau i hyrwyddo cadwraeth natur ar ei rhan. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, rheoli gwarchodfeydd natur (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG). Mae gan NatureScot 800 o weithwyr ac mae ganddo swyddfeydd mewn sawl rhanbarth yn yr Alban. Symudwyd y pencadlys o Gaeredin i Inverness yn 2003/2004. Yn dod i rym ar 24 Awst 2020, newidiwyd enw'r awdurdod i NatureScot.[4]

Cyfrifoldebau

[golygu | golygu cod]
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock, a weinyddir gan NatureScot

Nodau cyffredinol NatureScot fel y’u sefydlwyd yn Neddf Treftadaeth Naturiol (Yr Alban) 1991 yw:[5]

  • Sicrhau cadwraeth a chyfoethogi treftadaeth naturiol yr Alban
  • Meithrin dealltwriaeth a hwyluso mwynhad o dreftadaeth naturiol yr Alban

At ddibenion y Ddeddf, diffinnir treftadaeth naturiol yr Alban fel fflora a ffawna'r Alban, ei nodweddion daearegol a ffisiograffigol a'i harddwch naturiol a'i hamwynder. Mae cyfrifoldebau penodol NatureScot yn cynnwys:

  • Rhoi cyngor i lywodraeth yr Alban ar ddatblygu a gweithredu polisïau sy’n berthnasol i dreftadaeth naturiol yr Alban
  • Lledaenu gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â threftadaeth naturiol yr Alban i'r cyhoedd
  • Cynnal a chomisiynu ymchwil yn ymwneud â threftadaeth naturiol yr Alban
  • Sefydlu, cynnal a rheoli ardaloedd cadwraeth dynodedig yn yr Alban

Enghreiffiau o waith NatureScot

[golygu | golygu cod]

Mae NatureScot bellach yn berchen ar ynysoedd fel Gogledd Rona, sydd â phoblogaethau sylweddol o forloi llwyd a'r morloi cyffredin. Bu hefyd yn ymwneud â chael gwared ar y poblogaethau o'r draenog a gyflwynwyd i Ynysoedd Heledd, gan ei fod yn cael effaith negyddol iawn ar boblogaethau magu pibydd y mawn, cwtiad torchog a'r pibyddion coesgoch yno.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The Natural Heritage (Scotland) Act 1991, cyrchwyd 8 Mawrth 2021
  2. "National nature agency to become 'NatureScot'". Scottish Natural Heritage. 19 November 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-19. Cyrchwyd 19 November 2019.
  3. "NatureScot Brand". NatureScot. Cyrchwyd 2 September 2020.
  4. NatureScot Brand, cyrchwyd 8 Mawrth 2021
  5. ""Natural Heritage (Scotland) Act 1991"". Gwefan Legislation.gov.uk. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy