Neidio i'r cynnwys

Papur carbon

Oddi ar Wicipedia
Papur carbon
Mathwriting implement Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dalen o bapur carbon paper, gyda'r ochr wedi gorchuddio â charbon ar y gwaelod
Dyblygiad testun i'w weld drwy bapur carbon

Mae papur carbon yn galluogi pobl i greu un neu fwy copi o ddalen wedi ysgrifennu neu ddarlunio arno gydag ysgrifbin neu deipio. Mae’r term e-bost cc sy’n golygu ‘copi carbon’ yn deillio o bapur carbon.

Ym 1801, dyfeisiodd yr Eidalwr, Pellegrino Turri, bapur carbon i ddarparu'r inc ar gyfer ei beiriant teipio mecanyddol, math cynnar o deipiadur.[1] Roedd ymddangosiad cyntaf y term wedi'i ddogfennu pan ffeiliodd y peiriannydd Saesneg, Ralph Wedgwood, batent ar gyfer ei " Stylographic Writer " ym 1806[2]. Gwellodd ei hwylustod pan gafodd ei wneud â ffilm blastig a gyda dwy gornel gyferbyn wedi'u torri i hwyluso eu gwahanu oddi ar dogfennau eraill. Ers hynny fe'i disodlwyd i raddau helaeth gan ddefnyddio llungopïwyr.

Gwneithuriad

[golygu | golygu cod]

Mae papur carbon yn cynnwys tair elfen:

  • cymorth papur neu ffilm blastig (polyester, polypropylen, ac ati)
  • inc (du neu las) a ddefnyddir ar gyfer dyblygu
  • inc argraffu yn ymgorffori brand y cwsmer a'i osod ar yr ochr gyferbyn â'r inc sy'n dyblygu.

Gwneir inciau dyblyg at ddau ddefnydd:

  • du ar gyfer atgynhyrchu dogfennau wedi'u teipio
  • glas neu ddu ar gyfer atgynhyrchu dogfennau mewn llawysgrifen gyda beiro

Nid dewis o liwiau yn unig mohono, mae'r inciau a ddefnyddir ar gyfer atgynhyrchu dogfennau wedi'u teipio yn ymateb i deipio'r peiriant, ond wrth ddefnyddio carbon "llaw" y pwysau a roddir sy'n gyfrifol am drosglwyddo'r inc.

Deunydd

[golygu | golygu cod]

Defnyddiwyd inciau'n seiliedig ar gwyr yn hanesyddol, ond erbyn ddiwedd yr 1960au ymddangosodd carbonau "adfywio", ac roedd yr inc yma yn seiliedig ar resin. Cyfiawnhawyd yr enw "adfywio" i'r graddau gan bod ardal a ddefnyddiwyd eisoes wedi'i "ail-incio" trwy fudo'r inc trwy'r resin, ychydig fel sbwng. Ffenomen amhosibl ei chael gydag inciau cwyr a oedd, mewn gwirionedd, â hyd oes byrrach. Ar ben hynny, roedd y defnydd o ffilmiau plastig yn ogystal ag inciau resin yn ei gwneud hi'n bosibl gwneud mwy o ddyblygiadau - hyd at ddeg copi o'i gymharu â dim ond pedwar neu bump â chwyr. Mae'r gorchudd hwn yn cynnwys cwyr fel 'cwyr Japan', paraffin, a charnauba ac olewau fel olein a rosin wedi'u cyfuno'n drylwyr â lliw.[3]

Yn aml mae gan dalennau papur carbon ddwy gornel gyferbyn wedi'u torri (gweler y ddelwedd, y gornel chwith uchaf a'r gornel dde isaf). Gwneir y rhiciau hyn hi'n haws gwahanu'r dalennau papur carbon o'r bwndel o'r gwreiddiol a'r copïau - gellir dal y dogfennau yn y gornel chwith uchaf i ryddhau'r dalennau carbon yn hawdd, nad ydynt wedi'u pinsio.

Defnydd

[golygu | golygu cod]

Papur carbon oedd y prif gyfrwng atgynhyrchu ar gyfer samizdat, dull cyhoeddi a ddefnyddiwyd yn yr hen Undeb Sofietaidd er mwyn cyhoeddi llyfrau heb orfod defnyddio tai argraffu a reolir gan y wladwriaeth a pheryglu’r sensoriaeth neu’r carchar.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Italian Inventors and their Inventions". YourGuideToItaly.com. 2010. Cyrchwyd 2011-01-25.
  2. (Saesneg) The Exciting History of Carbon Paper!
  3. "Carbon paper". Britannica. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2024.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy