Neidio i'r cynnwys

Penrhyn-coch

Oddi ar Wicipedia
Penrhyn-coch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.439°N 3.994°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN645842 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bach yng nghymuned Trefeurig, Ceredigion, ydy Penrhyn-coch.[1] Lleolir rhwng Afon Stewi a Nant Seilo, yn agos i le maent yn ymuno ag Afon Clarach. Mae'r pentref tua 4½ milltir i'r gogledd ddwyrain o Aberystwyth.

Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol ers yr 1970au, gan i sawl ystad o dai gael eu hadeiladu. Erbyn 2005, roedd 480 o dai a thua 1,037 o drigolion. Cyflogir rhan helaeth o'r boblogaeth yn Aberystwyth, neu yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth a leolir ar gyrion y pentref. (a adwaenir wrth yr acronym Seisnig, IBERS).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Cyfleusterau

[golygu | golygu cod]

Saif Eglwys Sant Ioan (yr Eglwys yng Nghymru) yng nghanol y pentref a Horeb, Eglwys y Bedyddwyr ar gyrion y pentref. Mae'r pentref yn cynnwys Neuadd, Ysgol Gynradd Gymunedol Penrhyn-coch, clwb Pêl-droed sy'n chwarae ar Gae Baker, maes chwarae i blant, a maes chwarae. Mae hefyd gorsaf betrol a swyddfa bost, ill dau a siop fechan ynghlwm wrthynt. Mae gan asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (Comisiwn Coedwigaeth Cymru gynt), safle Gogerddan ar gyrion y pentref, gyda chyfleusterau picnic a llwybrau troed.

Mae pentref Penrhyn-coch yn ddatblygiad gymharol ddiweddar. Nid oedd pentref yno yn ystod yr 18g, a roedd y tir lle saif y pentref heddiw yn rhan o Ystad Gogerddan a oedd yn eiddo i'r teulu Pryse. Dechreuodd y pentref ddatblygu tuag at ddiwedd yr 18g, ond ni dyfodd yn sylweddol hyd i'r ystad ddechrau gael ei rannu yn ystod yr 1940au.

Lleolir cofeb yng nghanol y pentref i'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Yn ôl thesis a gyhoeddwyd ym 1939, mae'r garreg cwarts mawr a ddefnyddwyd ar gyfer y gofeb yn faen hir hynafol.[4]

Trigolion nodedig

[golygu | golygu cod]

Saif man geni bardd yr 14g, Dafydd ap Gwilym (Brogynin) gerllaw.[5] Bu'n gartref am gyfnod yn yr 1750au i'r hydrograffwr a'r ysgolhaig Lewis Morris. Mae'r pentref hefyd wedi bod yn gartref i lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, David Jenkins, ers ei blentyndod. Yma y ganed Stephen Jones[angen ffynhonnell], chwaraewr rygbi. Mae'r pentref yn gartref i nifer o awduron gan gynnwys Niall Griffiths.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy