Neidio i'r cynnwys

Perth, Gorllewin Awstralia

Oddi ar Wicipedia
Perth, Gorllewin Awstralia
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPerth Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,141,834 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1829 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00, UTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iChengdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Awstralia Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd6,418 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Swan, Cefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.9558°S 115.8597°E Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y ddinas yn Awstralia yw hon. Gweler hefyd Perth (gwahaniaethu).

Prifddinas talaith Gorllewin Awstralia yw Perth (Noongareg: Boorloo). Hi yw'r ddinas fwyaf yn y dalaith, gyda phoblogaeth o tua 1.5 miliwn. Cafodd Perth ei sefydlu ym 1829.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Perth yw un o'r dinasoedd mwyaf arwahanedig ac arunig yn y byd - y ddinas agosaf yw Adelaide sydd yn Ne Awstralia ac sydd 2,104 kilomedr (1,307 mill) i ffwrdd. Mae'r ddinas yn agosach i Ddwyrain Timor, Singapôr a Jakarta sydd yn Indonesia nag i Sydney, Melbourne a Brisbane sydd yn yr un wlad.

Cyfathrebau

[golygu | golygu cod]

Mae Awstralia yn wlad eang iawn ac felly dim ond yn y dinasoedd y gwelir priffyrdd. Mae'r ffordd Kwinana Freeway yn ymestyn o Rockingham yn ne'r ddinas i'r CBD (canol busnes dref) a Kings Park. Mae'r Mitchell Freeway yn parhau o’r ardal yma i faestrefi gogleddol y ddinas lle mae'n dod i ben yn Joondalup. Lleolir Maes Awyr Perth yn agos i faestref o’r enw Welshpool a leolir yn ne ddwyrain y ddinas. Mae yna drenau trydanol modern yn y ddinas sy'n cwrdd mewn gorsaf trenau modern tanddaearol yng nghanol y ddinas. Mae cychod yn mewnforio i'r porthladd enfawr yn Fremantle, sy'n 10 milltir o'r ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
  • Castell Albany Bell
  • Cofadail y Fforwyr
  • Eglwys Wesley
  • Llyfrgell J S Battye
  • Stadiwm Perth
  • Tŷ Le Fanu

Mae gan Perth nifer o adeiladau uchel

Enw Uchder Lloriau Adeiladu Pwrpas
1 Central Park 249 m (817 tr) 51 1992 Swyddfeydd
2 BankWest Tower 214 m (702 tr) 50 1988 Swyddfeydd
3 QV.1 163 m (535 tr) 38 1991 Swyddfeydd
4 Exchange Plaza 146 m (479 tr) 40 1992 Swyddfeydd
5 St Martins Tower 140 m (459 tr) 33 1977 Swyddfeydd
6 Woodside Plaza 137 m (449 tr) 28 2003 Swyddfeydd
7 Allendale Square 132 m (433 tr) 31 1976 Swyddfeydd
8 140 St Georges Terrace ("AMP Building" gynt) 131 m (430 tr) 30 1975 Swyddfeydd
9 Forrest Centre 110 m (361 tr) 30 1990 Swyddfeydd
9 Governor Stirling Tower 110 m (361 tr) 28 1978 Swyddfeydd

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Perth yw'r 4ydd dinas yn ôl maint yn y wlad. Poblogaeth y ddinas oedd 1,445,079 yn ôl cyfrifiad 2006. Mae cyfran uchel o'r boblogaeth yn dod o dramor. Dengys hyn yn y tabl isod.

Poblogaeth genidigaethau
tramor arwyddocaol
Gwlad Genedigaeth Poblogaeth
(2006)
Deyrnas Unedig 171,024
Seland Newydd 34,661
Maleisia 18,993
De Affrica 18,828
Yr Eidal 18,814
India 14,094
Singapôr 11,237
Fietnam 10,078
Iwerddon 7,813
Yr Iseldiroedd 7,715
Gweriniaeth Pobl Tsieina 7,684
Yr Almaen 7,684
Indonesia 7,404
Unol Daleithiau America 5,558
Philippines 5,222

Dinaswedd

[golygu | golygu cod]
Canol Busnes Dref Perth o ardal Kings Park.
Canol Busnes Dref Perth o ardal Kings Park.


pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy