Plaid Unoliaethol Ulster
Plaid Unoliaethol Ulster | |
---|---|
Arweinydd | Robin Swann MLA |
Llywydd | May Steele |
Cadeirydd | The Lord Empey |
Sefydlwyd | 3 Mawrth 1905 |
Rhagflaenwyd gan | Irish Unionist Alliance |
Pencadlys | Strandtown Hall, 2-4 Belmont Road, Belfast, County Down, Gogledd Iwerddon |
Asgell yr ifanc | Young Unionists |
Rhestr o idiolegau | Unoliaethwyr Prydeinig[1] Ceidwadaeth[1] Gwrth-Ewrop[1] |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol-Dde[2] |
Partner rhyngwladol | None |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Cynghrair Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop |
Lliw | Coch, glas a gwyn |
Tŷ'r Cyffredin | 0 / 18 |
Tŷ'r Arflwyddi | 2 / 784 |
Senedd Ewrop | 1 / 3 |
Cynulliad Gogledd Iwerddon | 10 / 90 |
Cynghorau lleol | 84 / 462 |
Gwefan | |
Gwefan swyddogol |
Plaid Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yw Plaid Unoliaethol Ulster (Saesneg: Ulster Unionist Party neu UUP).
Hanes
[golygu | golygu cod]Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn 1921, cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 o siroedd Iwerddon yn annibynnol yn 1922 fel Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio Wlster) yn rhan o'r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig yn Stormont. Daeth Syr James Craig yn Brif Weinidog. O 1929 ymlaen, Plaid Unoliaethol Ulster oedd y brif blaid Unoliaethol, a bu mewn grym am hanner can mlynedd.
Dros y blynyddoedd bu trigolion Catholig Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog Terence O'Neill newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, James Chichester-Clark, ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis Ian Paisley.
David Trimble oedd arweinydd y blaid rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arwenydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "NORTHERN IRELAND / UK". Parties and Elections in Europe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-29. Cyrchwyd 2015-05-07.
- ↑ Ari-Veikko Anttiroiko; Matti Mälkiä (2007). Encyclopedia of Digital Government. Idea Group Inc (IGI). tt. 394–. ISBN 978-1-59140-790-4.