Python (iaith raglennu)
Math o gyfrwng | object-based language |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 20 Chwefror 1991 |
Yn cynnwys | integrated development environment |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gwefan | https://www.python.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith raglennu lefel uchel ddeongliedig sy'n cael ei defnyddio ar gyfer rhaglennu pwrpas cyffredinol ywPython. Cafodd ei chreu gan Guido van Rossum a'i rhyddhau gyntaf yn 1991. Mae gan Python athroniaeth dylunio sy'n pwysleisio darllenadwyedd cod, yn arbennig trwy ddefnydd o ofod gwyn arwyddocaol. Mae'n darparu dyfeisiau sy'n galluogi rhaglennu eglur ar raddfa fechan a mawr. Yng Ngorffennaf 2018, camodd Van Rossum i lawr fel arweinydd y gymuned iaith ar ôl 30 o flynyddoedd.[1][2]
Mae gan Python system teip deinamig a rheolaeth cof awtomatig. Mae'n cefnogi patrymau rhaglennu niferus, gan gynnwys gwrthrych-gyfeiriadol, gorchmynnol, ffwythiannol a gweithdrefnol, ac mae ganddi lyfrgell safonau fawr a chynhwysfawr.
Mae dehonglwyr Python ar gael i nifer o systemau gweithredu. Mae CPython, gweithrediad cyfeirnodol Python, yn feddalwedd cod agored[3] a chanddi fodel datblygu yn seiliedig ar gymuned, fel bron pob un o'r gweithrediadau Python eraill. Mae Python a CPython yn cael eu rheoli gan Sefydliad Meddalwedd Python.
Python yn Gymraeg
[golygu | golygu cod]Yn 2018 llwythwyd gwersi Cymraeg ar sut oedd rhaglenni drwy system Python. Paratowyd y gwersi fideo gan Geraint Palmer [4] o adran Fathemateg Brifysgol Caerdydd drwy nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Guido van Rossum Stepping Down from Role as Python's Benevolent Dictator For Life | Linux Journal". www.linuxjournal.com (yn Saesneg).
- ↑ "Python boss Guido van Rossum steps down after 30 years | TheINQUIRER". http://www.theinquirer.net (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-19. Cyrchwyd 2018-11-18. External link in
|website=
(help) - ↑ "History and License". Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2016.
- ↑ https://www.cardiff.ac.uk/cy/people/view/1067369-
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=M1PQ3ICDNns&list=PLSkPgScy-DkFdCzwJW9X_B9IfTouojem7
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Downey, Allen B. (May 2012). Think Python: How to Think Like a Computer Scientist (arg. Version 1.6.6). ISBN 978-0-521-72596-5.Check date values in:
|date=
(help) - Hamilton, Naomi (5 August 2008). "The A-Z of Programming Languages: Python". Computerworld. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2008. Cyrchwyd 31 March 2010. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - Lutz, Mark (2013). Learning Python (arg. 5th). O'Reilly Media. ISBN 978-0-596-15806-4.
- Pilgrim, Mark (2004). Dive Into Python. Apress. ISBN 978-1-59059-356-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-19. Cyrchwyd 2018-11-18.
- Pilgrim, Mark (2009). Dive Into Python 3. Apress. ISBN 978-1-4302-2415-0.
- Summerfield, Mark (2009). Programming in Python 3 (arg. 2nd). Addison-Wesley Professional. ISBN 978-0-321-68056-3.