Rheilffordd Swanage
Rheilffordd Swanage Railway | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Hanes y lein wreiddiol
[golygu | golygu cod]Agorwyd y lein rhwng Wareham, Corfe Castle a Swanage yn 1885. Caewyd a dymchwelwyd y lein i Swanage yn 1972. Caedwyd y lein rhwng Cyffordd Worgret a Furzebrook a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gludo clai (ers y 1880au), ac yn hwyrach olew a nwy o Fferm Wytch.
Hanes Rheilffordd Swanage
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Swanage. Gwerthwyd Gorsaf Reilffordd Swanage i'r cyngor lleol gan Reilffordd Brydain. Ar ôl i breswylwyr Swanage bleidleisio o blaid ailadeiladu'r rheilffordd, llogwyd yr orsaf yn ôl i'r Gymdeithas gan y cyngor. Yna dechreuodd y gwaith o ailosod y cledrau. Ail-ddechreuodd gwasanaeth stêm ym 1980 a chyrhaeddwyd Herston, milltir o Swanage, erbyn 1982, lle adeiladwyd arhosfa newydd. Dechreuodd gwasanaeth i Herston ym 1984.
Cyrhaeddwyd Harman's Cross ym 1987 ac agorwyd gorsaf newydd ym 1988.
Atgyweiriwyd gorsaf reilffordd Castell Corfe ac estynnwyd y lein yno, ac yn Awst, 1995, aeth y trên cyntaf yn ôl yno. Adeiladwyd gorsaf reilffordd newydd yn Norden, ac adeiladodd Cyngor Purbeck faes parcio sy'n dal 350 o geir i alluogi pobl i adael eu ceir yno a chymryd y trên, gan leihau pwysau ar yr A351 a meysydd parcio Swanage.[1] Yn Ionawr 2002, ailsefydlwyd cysylltiad i weddill rheilffyrdd Prydain pan ailosodwyd trac rhwng Norden a Motala. O 2007 ymlaen, defnyddiwyd y cysylltiad newydd gan locomotifau'n ymweld â Rheilffordd Swanage, ac ers 2009, mae trenau o weddill rheilffyrdd Prydain wedi cyrraedd Castell Corfe a Swanage.
Gweithdy Herston
[golygu | golygu cod]Mae'r gweithdy'n dal dwy locomotif. Mae'n uned diwydiannol yn ymyl Rhodfa Fictoria yn Swanage. Does dim cysylltiad rhwng y rheilffordd a'r gweithdy; rhaid i bob injan gael ei gludo ar y ffordd.[2]. Cynhelir trafodaeth â chwmni lleol gyda'r gobaith o symud i adeilad arall gyda chysylltiad i'r rheilffordd, i ddatrys problemau cludiant.[3]
Y dyfodol
[golygu | golygu cod]Er bod y Rheilffordd yn rheilffordd dreftadaeth, bwriedir iddi fod yn rheilffordd effeithiol a defnyddiol rhwng Wareham a Swanage ar gyfer preswylwyr lleol[4]. Gobeithir y bydd y gwasanaeth rhwng Wareham a Swanage yn ailddechrau erbyn Medi 2015, yn rhedeg ar 140 diwrnod dros gyfnod o ddwy flynedd cyn i'r gwasanaeth lawn ail-ddechrau.[5]. Mae Cyngor Ardal Purbeck a Chyngor Swydd Dorset wedi cyfrannu'n ariannol i'r estyniad yn ôl i Wareham.[6]
Locomotifau
[golygu | golygu cod]Locomotifau Stêm
[golygu | golygu cod]Rhif ac Enw | Disgrifiad | Nodiadau | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
27 Norman (Rhif 68005) |
Hunslet 'Austerity' 0-6-0ST | Adeiladwyd ym 1943. Mae Norman yn gweithio'n rheolaidd ar Reilfford Embsay ac Abaty Bolton. Disgwylir y bydd yno am sawl blwyddyn i ddod. | Du BR efo bathodyn cynnar. | |
6695 | Dosbarth 5600 Rheilffordd y Great Western 0-6-2T | Yn gweithio. Adeiladwyd ym 1928. | Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. | |
30053
Dosbarth M7 |Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin 0-4-4T |
Yn gweithio. Adeiladwyd ym 1905. | Du Brefo bathodyn hwyr. | ||
34010 Sidmouth | Dosbarth West Country Rheilffyrdd y De 4-6-2 | Adeiladwyd ym 1945. Cedwir ei foiler yn Bridgnorth ar Reilffordd Dyffryn Hafren. | ||
34028 Eddystone | Dosbarth 'West Country' Rheilffyrdd y De 4-6-2
Adeiladwyd ym 1946. |
Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. | ||
34053 Sir Keith Park | Dosbarth 'Battle of Britain' Rheilffyrdd y De 4-6-2 | Gweithredol. Adeiladwyd ym 1947. Cedwir yn Rheilffordd Dyffryn Hafren oherwydd diffyg lle yn Swanage. Disgwylir y bydd yno am sawl blwyddyn. | Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. | |
34070 Manston | Dosbarth Battle of Britain Rheilffyrdd y De 4-6-2 | Gweithredol. Adeiladwyd ym 1947. | Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. | |
No. 34072 257 Squadron | Dosbarth 'Battle of Britain' Rheilffyrdd y De 4-6-2 | Atgyweirir. Adeiladir tender newydd. Adeiladwyd ym 1948. | Gwyrdd BR. | |
No. 80104 | Tanc dosbarth 4 BR 2-6-4T | Gweithredol. Adeiladwyd ym 1955. Tocyn boiler hyd at 2016 | Du BR efo bathodyn hwyr. |
Locomotifau Diesel
[golygu | golygu cod]Rhif ac Enw | Disgrifiad | Nodiadau | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
08436 (D3551) | Dosbarth 08 BR 0-6-0 | Gweithredol, Adeiladwyd ym 1958 | Du | |
D3591 (08476) | Dosbarth 08 BR 0-6-0 | Gweithredol, Adeiladwyd ym 1958 | Gwyrdd BR | |
No. D6515 (33012) | BR Bo-Bo Class 33 "Crompton" | Trwsiwir yng Ngweithdy Eastleigh, Adeiladwyd ym 1960 | Gwyrdd BR | |
No. 33111 "Hot Dog"
Dosbarth 33 |BR Bo-Bo "Crompton" |
Gweithredol, Adeiladwyd ym 1960 | Glas BR |
Unedau Diesel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan BBC; adalwyd 14/05/2014
- ↑ Tudalen y Gweithdy ar wefan Ymddiriodolaeth y rheilffordd Archifwyd 2012-08-31 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 14 Mai 2014
- ↑ Gwefan Bournemouth Echo; adalwyd 14 Mai 2014
- ↑ Cynllun strategol y rheilffordd, 2010[dolen farw]; adalwyd 14 Mai 2014
- ↑ Gwefan BBC; adalwyd 14 Mai 2014
- ↑ Gwefan Dorset for you Archifwyd 2014-01-17 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 14 Mai 2014