Rhodesia
Gwedd
Math | gwladwriaeth hanesyddol heb ei chydnabod |
---|---|
Prifddinas | Harare |
Poblogaeth | 6,930,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Rise, O Voices of Rhodesia |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Rhodesia |
Arwynebedd | 390,580 km² |
Cyfesurynnau | 20.5°S 28.58°E |
Arian | punt Rhodesia, doler Rhodesia |
Gwladwriaeth yn rhanbarth De Affrica oedd Rhodesia. Datganodd De Rhodesia annibyniaeth oddi ar y Deyrnas Unedig ar 11 Tachwedd 1965, dan y Prif Weinidog Ian Smith. Roedd gan y wlad lywodraeth wyn, er yr oedd mwyafrif o drigolion y wlad yn Affricanwyr Duon. Methodd Rhodesia i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol a bu'n wrthrych sancsiynau gan y Cenhedloedd Unedig. Ymladdwyd Rhyfel Gwylltir Rhodesia gan y mudiadau du ZANU a ZAPU yn erbyn y llywodraeth. Daeth y wlad yn Simbabwe-Rhodesia ym 1979, ac yn hwyrach De Rhodesia eto am gyfnod byr ac yna Simbabwe ym 1980.
Gweinidog y Gymanwlad yn 1965 oedd Cledwyn Hughes aelod seneddol Sir Fón.