Neidio i'r cynnwys

Stefan Stambolov

Oddi ar Wicipedia
Stefan Stambolov
Ganwyd30 Ionawr 1854 Edit this on Wikidata
Veliko Tarnovo Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1895 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Sofia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBwlgaria Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Odesa Theological Seminary Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, bardd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, cyfieithydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Prif Weinidog Bwlgaria, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPeople's Liberal Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Dewder Edit this on Wikidata
Cerflun Stambolov yn ei dref enedigol, Veliko Tarnovo

Prif weinidog Bwlgaria o Awst 1887 tan Mai 1894 ac un o ffigyrau pwysicaf blynyddoedd cynnar y wladwriaeth Fwlgaraidd fodern oedd Stefan Stambolov (Bwlgareg Стефан Николов Стамболов) (31 Ionawr / 12 Chwefror 1854, Veliko Tarnovo - 6 / 18 Gorffennaf 1895, Sofia).

Arweiniodd y gwrthwynebiad i'r coup d'état a ddymchwelodd Tywysog Alexander Battenberg yn 1886, ac wedyn chwaraeodd rôl allweddol yn y gais am dywysog newydd. Penodwyd yn brif weinidog gan olynydd Alexander, Tywysog Ferdinand Saxe-Coburg-Gotha ym mis Awst 1887. Sefydlodd blaid wleidyddol, y Blaid Genedlaethol Ryddfrydol, a fyddai'n ei gefnogi yn y senedd. Yn ystod ei saith mlynedd fel prif weinidog, cryfhaodd safle Ferdinand, gan ennill consesiynau i'r Eglwys Fwlgaraidd gan yr Ymerodraeth Ottoman a threfnu briodas Ferdinand â Thywysoges Marie-Louise o Bourbon Parma. Er iddo sicrhau sefyllfa'r goron y tu fewn i Fwlgaria, methodd ag ennill cydnabyddiaeth Rwsia, oedd wedi gwrthwynebu dewis Ferdinand fel Tywysog Bwlgaria yn y lle cyntaf.

Erbyn 1893, roedd ei fethiant i wella'r berthynas rhwng Rwsia a Bwlgaria wedi dod yn amlwg, a chafodd ei ddiswyddo gan Ferdinand ar ôl iddo gael ei gyhuddo o garwriaeth â gwraig un o'i gyd-weinidogion. Penodwyd Konstantin Stoilov, cenedlaetholwr a fyddai'n anelu at ymgymodi â Rwsia, yn ei le. Y flwyddyn ganlynol, ar 3 / 15 Gorffennaf 1895, ymosodwyd arno ar y stryd yn Sofia gan elynion gwleidyddol. Bu farw dridiau yn ddiweddarach.

pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy