Neidio i'r cynnwys

Terry Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Terry Griffiths
GanwydTerence Martin Griffiths Edit this on Wikidata
16 Hydref 1947 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 2024 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.terrygriffithssnooker.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr snwcer o Gymru oedd Terry Griffiths (16 Hydref 19471 Rhagfyr 2024).[1]

Cafodd ei eni yn Llanelli. Cyn troi yn chwaraewr snwcer proffesiynol yn 1978 roedd yn bostman yn y dre a gwerthwr yswiriant. O fewn blwyddyn ennillodd pencampwriaeth y byd yn 1979, a gynhaliwyd yn y Crucible yn Sheffield. Curodd Eddie Charlton yn y rownd gyn-derfynol a Dennis Taylor yn y rownd derfynol. O ganlyniad ef oedd y chwaraewr cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd a oedd wedi dechrau'r bencampwriaeth yn y rowndiau rhagbrofol.

Roedd yn rhedeg ei glwb snwcer ei hun yn Llanelli a Chaerfyrddin a bu'n hyfforddi Mark Williams, Stephen Hendry a Matthew Stevens. Ar ôl ymddeol o’r gamp, daeth yn sylwebydd a dadansoddwr gyda’r BBC.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod ag Annette ac roedd ganddynt ddau fab, Wayne a Darren.[2]

Bu farw yn 77 mlwydd oed wedi dioddef ers rhai blynyddoedd o dementia.[3] Cynhaliwyd ei angladd yn Llanelli ar 23 Rhagfyr 2024.[4]

Gwobrau
Rhagflaenydd:
Johnny Owen
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1979
Olynydd:
Duncan Evans

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cyn-bencampwr snwcer y byd Terry Griffiths wedi marw yn 77 oed". BBC Cymru Fyw. 1 Rhagfyr 2024. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2024.
  2. "Eurosport is not available in your region". www.eurosport.com. Cyrchwyd 2024-12-23.
  3. "Teyrngedau i Terry Griffiths, cyn-bencampwr snwcer y byd". Golwg 360. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2024.
  4. "Teyrngedau yn Llanelli i'r cyn-chwaraewr snwcer Terry Griffiths". BBC Cymru Fyw. 2024-12-23. Cyrchwyd 2024-12-23.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am snwcer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy