Undeb Llenorion yr Undeb Sofietaidd
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, creative union, writers union |
---|---|
Daeth i ben | 1991 |
Dechrau/Sefydlu | 1934 |
Gwladwriaeth | Yr Undeb Sofietaidd |
Undeb llafur ar gyfer llenorion yn yr Undeb Sofietaidd oedd Undeb Llenorion Undeb y Gweriniaethau Sosialaidd Sofietaidd, neu yn fyr Undeb Llenorion yr Undeb Sofietaidd, Undeb Llenorion UGSS neu Undeb y Llenorion Sofietaidd, a fodolai o 1932 hyd at gwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991.
Sefydlwyd ar 23 Ebrill 1932 gan orchymyn o Bwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol i ddiddymu'r cymdeithasau llenyddol a oedd eisoes yn bodoli, ac i uno holl ysgrifenwyr proffesiynol y wlad mewn un undeb llafur mawr, y cyntaf o'r "undebau creadigol" a ffurfiwyd ar gyfer galwedigaethau'r celfyddydau.[1] Cefnogai'r undeb bolisïau'r Blaid Gomiwnyddol, a'i swyddogaeth oedd dehongli ac hyrwyddo Realaeth Sosialaidd, arddull ideolegol swyddogol yr Undeb Sofietaidd, ym myd llên. Yn ogystal â diogelu ffïoedd, breintiau, a buddion eraill ar gyfer llenorion, bu'r undeb yn rheoli ysgolion i hyfforddi awduron ifanc ac yn darparu tai gwyliau ar gyfer ei aelodau.[2]
Rhennid Undeb y Llenorion yn nifer o undebau lleol, gan gynnwys un ar gyfer pob un o weriniaethau'r Undeb Sofietaidd. Cynhaliwyd ei Chyngres Holl-Undeb Gyntaf yn Awst 1934, ac wedi hynny byddai dirprwyon o'r amryw is-undebau yn cyfarfod ar achlysuron afreolaidd.[2] Ers 1934 bu Undeb y Llenorion yn rheoli gwasg argraffu o'r enw Sovetsky Pisatel (Советский писатель, "Llenor Sofietaidd") i gyhoeddi nofelau, casgliadau o farddoniaeth, dramâu, ac ysgrifau gan aelodau'r undeb. Cyhoeddwyd sawl cyfnodolyn gan yr undeb, gan gynnwys Novy mir ("Byd Newydd"), prif gylchgrawn llenyddol yr Undeb Sofietaidd.
Roedd ganddo'r grym i geryddu a chosbi llenorion a wyrai oddi ar reolau'r drefn Sofietaidd, a chafodd nifer o lenorion nodedig eu bwrw allan o'r undeb yn ystod ei hanes, gan gynnwys Anna Akhmatova, Mikhail Zoshchenko, Boris Pasternak, Andrei Siniavskii, Aleksandr Solzhenitsyn, a Vladimir Voinovich. Rhoddwyd Joseph Brodsky ar brawf ac ym 1964 fe'i cafwyd yn euog o "barasitiaeth" am hawlio ei fod yn fardd heb fod yn aelod o Undeb y Llenorion, a chafodd ei yrru'n alltud o'r wlad.[1]
Wrth i'r gweriniaethau ddatgan eu hannibyniaeth fesul un ym 1991, ymrannodd Undeb y Llenorion Sofietaidd a sefydliadau tebyg wrth i ffiniau'r wlad grebachu, ac erbyn diddymu swyddogol yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991 daeth ei Undeb Llenorion hefyd i ben.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Catharine Nepomnyashchy, "unions, creative, Soviet" yn Encyclopedia of Contemporary Russian Culture, golygwyd gan Tatiana Smorodinskaya, Karen Evans-Romaine ac Helena Goscilo (Llundain: Routledge, 2007), tt. 648–9.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Writers' Union of the U.S.S.R.. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2023.