VIA Rail
Enghraifft o: | cwmni rheilffordd, national railway, Corfforaeth y Goron, passenger rail transport, inter-city rail, rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 12 Ionawr 1977 |
Rhagflaenwyd gan | Canadian National Railway, Canadian Pacific Railway |
Perchennog | Canada |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Aelod o'r canlynol | Undeb Rheilffyrdd Rhyngwladol, Railway Association of Canada |
Gweithwyr | 3,248 |
Isgwmni/au | Via Rail Police Service, VIA HFR – VIA TGF Inc |
Ffurf gyfreithiol | Corfforaeth y Goron |
Pencadlys | Montréal, Place Ville Marie |
Gwladwriaeth | Canada |
Gwefan | https://www.viarail.ca/en, https://www.viarail.ca/fr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Via Rail Canada yn gorfforaeth annibynnol y Goron gyda chefnogaeth ariannol Cludiant Canada, sydd yn cynnig gwasanaethau trên rhwng dinasoedd Canada. Mae gan VIA Rail (hyd at 11 Ebrill 2018) 73 locomotif, a 426 cerbyd ar gyfer teithwyr. Mae gan y reilffordd rwydwaith o 12,500 cilomedr a 121 o orsafoedd.[1]
Hanes VIA Rail
[golygu | golygu cod]Hyd at 1967, roedd 2 cwmni yn rhedeg trenau ar gyfer teithwyr yng Nghanada, Rheilffordd y Canadian Pacific a Rheilffordd y Canadian National. Erbyn 1967 roedd y ddwy ohonynt yn awyddus i gael gwared o drenau i deithwyr, oherwydd diffyg cwsmeriaid, a phenderfynodd Llywodraeth Canada talu 80% o golled y rheilffyrdd ar y fath trenau. Ond doedd ddim buddsoddiad gan y 2 gwmni, a gostyngodd y nifer o deithwyr eto. Felly crewyd VIA Rail ym 1977 i redeg gwasanaethau i deithwyr.Ar 29 Hydref 1978 lansiwyd trên traws-gyfandirol cyntaf VIA Rail, ‘Y Super Continental’, rhwng Montréal a Vancouver. Yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, unodd VIA Rail hen rwydweithiau y Canadian Pacific a Canadian National. Caewyd y gorsaf CP yn Vancouver a defnyddiwyd yr orsaf CN. Aildrefnwyd gwasanaethau ar 1 Tachwedd 1981; collwyd 400 o swyddi. Agorwyd canolfan cynnal a chadw i drenau VIA Rail yn Ville St Pierre, Montréal yn Ebrill 1983. Aildrefnwyd rheolaeth y rheilffordd yn Awst 1983, a chollwyd 109 o swyddi. Agorwyd canolfan cynnal a chadw yn Nhoronto ym 1985. Daeth 1000 o gyn-weithwyr CN at VIA Rail. Ym mis Hydref, ail-agorwyd hen orsaf hanesyddol Québec. Agorwyd sawl depo newydd yn Nhoronto, Montréal, Winnipeg, Vancouver a Halifax. Daeth 1000 o gyn-weithwyr eraill o CN, gan gynnwys gyrwyr trên a pheirianyddion. Ar 29 Mai 1986, lansiwyd "Canada's Classic Train Experience", taith trên moethus trwy Mynyddoedd y Rockies.Agorwyd depo newydd ym Montréal ym 1987. Agorwyd canolfannau cynnal a chadw yn Ionawr 1989 yn Halifax, Nova Scotia ac yn Ebrill yn Vancouver. Cyhoeddwyd toriadau dros VIARail gan y llywodraeth yn Ionawr 1990, gyda cholled o 2,761 o weithwyr. Lleihawyd costiau gweinyddol ac anuniongyrchol gan 60% er bod cynnydd yn nifer o drenau rhwng Windsor a Quebec. Ym 1997, daeth y wasanaeth rhwng Montréal, Sherbrook a Halifax i ben. Yn 2000, buddsoddwodd y llywodraeth $402,000,000 o ddoleri yn VIARail, a phyrynwyd cerbydau a locomotifau newydd.[2]
Gwasanaethau trên[3]
[golygu | golygu cod]Québec - Sainte-Foy – Montréal – Ottawa
Montréal – Alexandria – Ottawa – Fallowfield
Montréal – Kingston – Toronto – Aldershot
Toronto – Kingston - Ottawa
Toronto – London – Sarnia
Toronto – Rhaeadr Niagara – Efrog Newydd
Halifax – Montréal
Montréal – Jonquière
Montréal – La Tuque - Senneterre
Toronto - Winnipeg – Jasper – Vancouver
Jasper – Prince George – Prince Rupert
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y cwmni
- ↑ Tudalen hanes ar wefan y cwmni
- ↑ Amserlen Via Rail
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Oriel
[golygu | golygu cod]-
Gorsaf reilffordd Quebec
-
Locomotifau yn Churchill, Manitoba