Neidio i'r cynnwys

Y Babes Siân

Oddi ar Wicipedia
Y Babes Siân
GanwydMainz Edit this on Wikidata
Bu farw850s Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, clerig Edit this on Wikidata
Llun dychmygol o bab benywaidd ar gerdyn Tarot (o Marseille, Ffrainc, 18g)

Roedd y Babes Siân[1] yn ferch anhysbys y dywedir amdani ei bod wedi treulio cyfnod o ddwy flynedd neu fwy fel pab yn Rhufain.

Martin o Troppau

[golygu | golygu cod]

Yn ôl croniclau Martin o Troppau, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1250, llwyddodd merch wedi'i gwisgo fel dyn i gael ei hethol yn bab gyda'r teitl pabaidd Johannes VIII (Ioan VIII). Nid oes cyfeiriad ati yn y Liber Pontificalis, y cofnodion swyddogol o'r pabau, ond fe honnir ei bod wedi dal swydd y pab o 855 hyd 858. Yn ôl hanes swyddogol yr Eglwys Gatholig, Pab Bened III oedd yn bab am y blynyddoedd hynny.

Steffan o Bourbon

[golygu | golygu cod]

Mae traddodiad arall, a gofnodir gan Steffan o Bourbon, brawd Dominicaidd a flodeuai yn y 13g, yn honni bod Siân wedi cael ei hethol tua'r flwyddyn 1100 a'i bod wedi esgor ar blentyn ar ei ffordd i'r Fatican. Roedd jôc Lladin yn cylchredeg ymhlith y boblogaeth mai "mam nid tad (Papa)" oedd y pab newydd: non papa sed mama.

Traddodiad arall

[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad arall, mwy rhamantaidd, roedd hi'n ferch ifanc o'r 9g, naill ai o Loegr neu o Mainz yn yr Almaen. Syrthiasai mewn cariad â mynach Benedictaidd, croeswisgodd er mwyn teithio yn ei gwmni, enillodd glod am ei dysg a chafodd ei wneud yn gyntaf yn gardinal ac yn ddiweddarach yn bab.

Ffynhonnell

[golygu | golygu cod]
  • J. C. J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "Joan"
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy