Colon (anatomeg)
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | rhan o goluddyn mawr, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | coluddyn mawr |
Cysylltir gyda | ilëwm, coluddyn dall, rectwm |
Yn cynnwys | colon esgynnol, colon traws, colon disgynnol, colon sigmoid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y colon ydy'r rhan olaf o'r system dreulio gyda'r mwyafrif o fertebratau; tynna ddŵr a halen allan o wastraff solet cyn iddynt gael eu gwaredu o'r corff. Yn y colon hefyd y bydd deunydd na sydd wedi ei amsugno yn cael ei eplesu gyda chymorth bacteria. Yn wahanol i'r coluddyn bach, nid yw'r colon yn chwarae rôl flaenllaw wrth amsugno bwydydd a maetholion. Fodd bynnag, mae'r colon yn amsugno dŵr, potasiwm a rhai fitaminau brasterog sy'n hydawdd.[1]
Mewn mamaliaid, mae'r colon yn cynnwys pedair rhan; y coluddyn esgynnol, y coluddyn traws, y coluddyn disgynnol a'r coluddyn sigmoid. Mae'r colon, cecwm, a'r rectwm yn creu'r coluddyn mawr.[2]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Coluddion
-
Cynllun
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Colon Function And Health Information Archifwyd 2012-09-05 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 2010-01-21
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-11. Cyrchwyd 2010-12-23.