Rectwm
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Daw'r gair rectwm o'r gair Lladin rectum intestinum (coluddyn syth), a dyma'r rhan olaf o'r coluddion mewn llawer o anifeiliaid sy'n gorffen yn yr anws. Mae'n rhan, felly, o'r system dreulio. Mewn dyn mae oddeutu 12 cm o ran hyd.
Ei bwrpas
[golygu | golygu cod]Storfa ysgarthion ydyw; storfa dros dro. Mae waliau'r rectwm yn ymledu wrth i'r defnydd lenwi'r rhan yma, gan ymestyn synhwyrwyr nerfol sydd wedi'u lleoli yn waliau'r rectwm ac yn anfon neges i'r ymennydd ei bod hi'n amser i ysgarthu. Os nad ydy'r weithred hon yn digwydd, mae'r ysgarthion yn mynd yn ei ôl i'r colon ble mae rhagor o ddŵr yn cael ei amsugno ohono. Os gwneir hyn (hy dal yn ôl rhag cachu) am gyfnod hir, mae'r ysgarthion yn eithaf caled.
Diagramau
[golygu | golygu cod]-
Organau rhyw benywaidd.
-
Toriad saethol o'r pelfis, gan ddangos y ffasgau.
-
Rhydweliau'r pelfis.
-
Toriad drwy'r bilen ludiog (Sa: mucous membrane) dynol. X 60.
-
Gwythienau'r rectwm a'r anws.
-
Toriad saethol drwy'r pelfis dynol gwrywaidd.
-
Toriad saethol drwy'r pelfis dynol benywaidd.
-
Mae'r rectwm i'w weld ar y chwith.