Arius
Arius | |
---|---|
Ganwyd | 250s Cyrenaica |
Bu farw | 336 Caergystennin |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | asgetig, diwinydd, henuriad, pregethwr |
Offeiriad Cristnogol a sylfaenydd credo Ariadaeth neu Ariaeth oedd Arius (c. 256 - 336).
Yn ôl Epiphanius o Salamis roedd Arius yn frodor o Libya, yn ôl pob tebyg hen dalaith Rufeinig Cyrenaica.
Dechreuodd y ddadl yn Alexandra yn yr Aifft, lle roedd Arius yn byw. Roedd yr Esgob Alexander o Alexandria ac Athanasius yn credu fod Iesu o'r un sylwedd (ousia) a Duw y Tad, tra'r oedd Arius yn credu ei fod o sylwedd debyg ond nid yr un fath, a bod y Mab wedi ei greu gan y Tad. Galwyd Cyngor Cyntaf Nicaea gan yr ymerawdwr Rhufeinig Cystennin I yn 325 i ddyfarnu ar y mater. Dyfarnodd y Cyngor yn erbyn yr Ariaid.
Parhaodd Ariadaeth yn boblogaidd yn Ymerodraeth Caergystennin a chafodd gefnogaeth gan ymerodron diweddarach Caergystennin fel Constantius II a Valens. Collodd Ariadaeth golli tir ar ôl Cyngor Cyntaf Caergystennin o dan yr Ymerawdr Theodosius yn 381, ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoedd Germanaidd cynnar, yn enwedig gan y Gothiaid.