John Betjeman
John Betjeman | |
---|---|
Ganwyd | 28 Awst 1906 Llundain |
Bu farw | 19 Mai 1984 Cernyw |
Label recordio | Charisma Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, sgriptiwr, cyflwynydd teledu |
Swydd | Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig |
Tad | Ernest Edward Betjemann |
Mam | Mabel Bessie Dawson |
Priod | Penelope Chetwode |
Partner | y Fonesig Elizabeth Cavendish |
Plant | Candida Lycett Green, Paul Betjeman |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Medal Albert, Marchog Faglor, Gwobr Russell Loines am Farddoniaeth, Heinemann Award |
Bardd yn yr iaith Saesneg ac awdur ar bensaernïaeth o Loegr oedd Syr John Betjeman (28 Awst 1906 – 19 Mai 1984). Fe oedd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 1972 hyd ei farwolaeth.
Roedd Betjeman yn un o hoff feirdd y cyhoedd ac yn gyfarwydd o ganlyniad i'w gerddi hawdd eu darllen a'i ymddangosiadau ar y radio a'r teledu. Fe gafodd ei alw'n aml yn "the nation's teddy bear".[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed John Betjemann ar 28 Awst 1906 yn fflat rhif 52 Parliament Hill Mansions, rhan o ystad Lissenden Gardens, yn ne ardal Hampstead Heath, Llundain. Dyn busnes cefnog oedd ei dad, o dras Almaenwyr ymfudodd i Loegr yn y 18g. Cafodd ei fagu yn unig blentyn ym mwrdeistref Highgate yng ngogledd y brifddinas, ac yno fe gafodd ei addysgu gan T. S. Eliot yn yr ysgol annibynnol leol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd John ei fwlio am ei gyfenw Germanaidd, ac felly newidiodd ei fam yr enw i Betjeman gydag un "n". Bachgen unig oedd John, a oedd yn ymddiddori mewn trenau a mapiau rheilffyrdd ac yn cario'i dedi Archibald ymhob man. Aeth ymlaen i ysgol baratoi'r Dragon yn Rhydychen a Choleg Marlborough, ysgol fonedd yn Wiltshire.
Astudiodd Betjeman yng Ngholeg Magdalen ym Mhrifysgol Rhydychen o 1925 i 1928. Aeth â'i hen degan Archibald i Rydychen, ac hwnnw oedd yr ysbrydoliaeth am Aloysius, tedi-bêr y cymeriad Sebastian Flyte, yn y nofel Brideshead Revisited gan Evelyn Waugh.[1] Nid oedd Betjeman a'i diwtor, C. S. Lewis, yn hoff o'i gilydd. Treuliodd y mwyafrif o'i amser yn cymdeithasu, yn actio, ac yn ysgrifennu i gylchgronau myfyrwyr, a gadawodd y brifysgol heb iddo dderbyn ei radd. Gweithiodd am gyfnod fel meistr ysgol baratoi cyn iddo gael ei benodi'n olygydd cynorthwyol yr Architectural Review a beirniad ffilm yr Evening Standard.
Fe briododd Penelope Chetwode yn 1933, a chawsant dau blentyn, Paul a Candida. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd Betjeman i'r Weinyddiaeth Wybodaeth yn swyddog diwylliannol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Fe gafodd ei urddo'n farchog yn 1969, a'i benodi'n Fardd Llawryfog y Deyrnas Unedig yn sgil marwolaeth Cecil Day-Lewis yn 1972. Bu farw Betjeman yn Trebetherick, Cernyw, yn 77 oed.
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Nodir barddoniaeth Betjeman gan "ei hiraeth am y gorffennol diweddar, ei synnwyr union o leoliad, a'i gyflwyniad manwl o arlliw cymdeithasol".[2] Un o'i gerddi enwocaf yw "Slough" (1937), sy'n dilorni'r datblygiadau diwydiannol yn nhref Slough yn Berkshire. Daeth y gerdd yn ddrwg-enwog ymhlith trigolion y dref, ac yn ddiweddarach fe fynegodd Betjeman ei ofid am ei hysgrifennu.
Ei ddiddordeb mewn pensaernïaeth
[golygu | golygu cod]Ymddiddorai Betjeman mewn pensaernïaeth ei wlad, a phensaernïaeth eglwysi a gorsafoedd rheilffyrdd yn arbennig. Roedd yn hoff iawn o'r dulliau Fictoraidd ac Edwardaidd, yn enwedig adeiladau'r neo-Gothig, ac yn lladd ar foderniaeth ac effeithiau diwydiannaeth a "Chynnydd" ar drefluniau Prydain. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf ar bwnc pensaernïaeth, Ghastly Good Taste, yn 1933. Am gyfnod hir fe ysgrifennai'r adran "Nooks and Corners" yn y cylchgrawn Private Eye.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Jane Curran, "Sir John Betjeman in Oxfordshire and beyond", BBC (2 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
- ↑ (Saesneg) John Betjeman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
Rhagflaenydd: Cecil Day-Lewis |
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig 20 Hydref 1972 – 19 Mai 1984 |
Olynydd: Ted Hughes |
- Genedigaethau 1906
- Marwolaethau 1984
- Anglicaniaid o Loegr
- Beirdd yr 20fed ganrif o Loegr
- Beirdd Llawryfog y Deyrnas Unedig
- Beirdd Saesneg o Loegr
- Beirniaid pensaernïol o Loegr
- Cyflwynwyr radio'r 20fed ganrif o Loegr
- Cyflwynwyr teledu'r 20fed ganrif o Loegr
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Magdalen, Rhydychen
- Llenorion Anglicanaidd
- Pobl o Lundain
- Pobl o Loegr o dras Almaenig
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o Loegr