Richard Owen
Richard Owen | |
---|---|
Ganwyd | 20 Gorffennaf 1804 Caerhirfryn |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1892 Richmond Park, Llundain |
Man preswyl | Lloegr |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | curadur, biolegydd, paleontolegydd, swolegydd, academydd, anatomydd, paleoanthropolegydd, llenor |
Swydd | cyfarwyddwr amgueddfa |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Amgueddfa Hanes Natur Llundain |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Medal Brenhinol, Medal Copley, Medal Clarke, Medal Linnean, Bakerian Lecture, Croonian Medal and Lecture, Medal Wollaston, Pour le Mérite, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi |
Biolegydd, anatomegwr cymharol a phaleontolegwr o Loegr oedd Richard Owen (20 Gorffennaf 1804 – 18 Rhagfyr 1892). Cafodd ei eni yng Nghaerhirfryn, yn fab ieuengaf i fasnachwr (o Fulmer Place, Berks) a oedd yn delio ag India'r Gorllewin. Yn 1792 y priododd ei rieni, a hynny yn Preston. Ef yn 1841 a fathodd y gair deinosor.
Addysg
[golygu | golygu cod]Bu ym Mhrifysgol Caeredin a choleg Bartholomew yn Llundain a chafodd swydd yng Ngholeg Llawfeddygon Llundain yn 1827.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Sgwennodd lyfr, Memoir on the Pearly Nautilus yn 1832, llyfryn a'i gododd i rengoedd uchaf anatomi cymharol led-led y byd. Fe'i gwnaed yn Athro yn yr adran Anatomi a Ffisioleg Cymharol yn 1832. Catalogodd sawl math gwahanol o anifeiliaid a ffosiliau a sgwennodd ychwaneg o lyfrau gan gynnwys:
- History of British Fossil Mammals and Birds (1846),
- History of British Fossil Reptiles (1849-1884),
- Researches on Fossil Remains of Extinct Mammals of Australia (1877-1878),
- Memoirs on Extinct Wingless Birds of New Zealand (1879).
Ei waith
[golygu | golygu cod]Yn 1820 cafodd waith fel prentis i lawfeddyg.
Erbyn 1856 roedd yr anatomydd pwysicaf a mwyaf dylanwadol drwy Ewrop. Sicrhaodd arian, a chododd yn Ne Kensington amgueddfa newydd, sef The National Natural History Museum, a agorwyd yn 1881.
Anghytunodd yn hallt gyda Charles Darwin a'i syniadau newydd ynglŷn ag esblygiad. Credodd (yn gywir felly) os oedd modd dangos sut mae anifail wedi esblygu dros miliynau o flynyddoedd, y dylem hefyd weld olion o'r creaduriaid a esblygwyd yn ddeinosor. Hyd yma, nid oes yr un wedi ei ddarganfod.
Yn 1852 fe roddwyd iddo anrheg gan ffrind mynwesol iddo, y Frenhines Victoria, sef: Sheen Lodge ar Ystâd Richmond Estate lle y preswyliodd am weddill ei oes.
Ef hefyd (yn 1841) a fathodd y gair deinosor o'r Hen Roeg deinos ‘ofnadwy, arswydus’ a sauros ‘madfall’. Roedd yn gyfrifol am yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain rhwng 1856 ac 1883. Yn 1884 cafod ei wneud yn Farchog. Anatomeg cymharol oedd ei bwnc arbenigol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Ei fywyd a'i waith
- (Saesneg) Coffâd (gwreiddiol) iddo Archifwyd 2013-08-01 yn archive.today