Bedo Hafesb
Bedo Hafesb | |
---|---|
Ganwyd | 1568 Powys |
Bu farw | 1585 |
Man preswyl | Aberhafesb |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1568 |
Bardd Cymraeg oedd Bedo Hafesb (bl. 1540au - 1585). Roedd yn frodor o ardal Maldwyn, Powys.[1] Mae ei enw barddol yn awgrymu cysylltiad gyda phlwyf Aberhafesb. Ffurf annwyl o 'ewyrth' yw 'Bedo' sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw (2014) mewn rhai ardaloedd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Daliai swydd sersiant yn Y Drenewydd, ond ychydig a wyddys amdano fel arall. Canai i uchelwyr Powys. Ceir sawl cywydd ganddo i foneddigion o'r Drenewydd a'r cylch. Canodd rai cywyddau dychan hefyd ac mae ar glawr cywyddau ymryson barddol rhyngddo ag Ieuan Tew Ieuanc.[1]
Graddiodd Bedo yn ddisgybl pencerddaidd yn Eisteddfod Caerwys 1567 (Ail Eisteddfod Caerwys). Ei gyd-ddisgyblion pencerddaidd yn yr Eisteddfod honno oedd Siôn Tudur, Lewis Menai, Huw Llŷn, Wiliam Cynwal, Siôn Phylip a Huw Cornwy.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Bedo Aeddren (fl. c. 1500), bardd o Langwm, Sir Conwy
- Bedo Brwynllys (c. 1460), bardd o Aberhonddu
- Bedo Phylip Bach (fl. 1480), bardd o Aberhonddu
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd