Einion Offeiriad
Einion Offeiriad | |
---|---|
Bu farw | 1356 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Clerigwr a bardd y priodolir iddo'r cynharaf o ramadegau'r beirdd oedd Einion Offeiriad (fl. tua 1300 - m. 1349). Ef yw awdur tybiedig Gramadeg Einion Offeiriad, sy'n un o'r enghreifftiau cyntaf a wyddys i ddifinio rheolau'r pedwar mesur ar hugain.
Ei fywyd
[golygu | golygu cod]Dim ond yn yr 17g y ceir y cyfeiriad cyntaf ato fel awdur y gramadeg hwn, a hynny gan yr hynafiaethydd a chopïwr llawysgrifau Robert Vaughan o Hengwrt, Meirionnydd. Mewn nodyn ar un o'r llawysgrifau sy'n cynnwys testun y gramadeg, fe'i gelwir yn:
- 'Llyfr Kerddwriaeth a wnaeth Einion Effeiriad o Wynnedd i Syr Rys ap Gruff.[udd] ap Howel ap Gruff. ap Ednyfed Vychan yr ynrydedd a moliant iddo ef.'
Ceir pedwar cofnod canoloesol at un 'Einion Offeiriad', i gyd o hanner cyntaf y 14g, ac mae'n bur debygol eu bod yn cyfeirio at awdur y gramadeg. Cofnodir iddo fod yn wrthrych mewn cwest yn rhinwedd ei swydd fel rheithor plwyf Llanrug yn Arfon yn 1349, ac fe ymddengys iddo farw o'r Pla Du yn y flwyddyn honno.
Ei waith
[golygu | golygu cod]Seiliodd Einion ei ramadeg ar weithiau Lladin cyffelyb a briodolir i Donatus (Cymraeg Canol: Dwned) a Priscian. Mae'n debyg iddo gael ei gyfansoddi tua'r flwyddyn 1320. Dadansoddiad, mynegiad o farn yr awdur a'i gymeradwyaeth o ffurfiau llenyddol newydd, yn hytrach na llawlyfr awdurdodol, yw'r gramadeg. Mae'n cynnwys nifer o gerddi enghreifftiol o waith y beirdd ac, efallai, rhai gan yr awdur ei hun.
Yr unig enghraifft o'i gerddi o awduraeth sicr sydd wedi goroesi yw awdl i'w noddwr Syr Rhys ap Gruffudd o Lansadwrn (c. 1283-1356). Mae'n bur debygol fod nifer o'r cerddi dienw yn ei Ramadeg yn waith Einion yn ogystal. Dyma un ohonynt, i ferch anhysbys anwadal ei serch:
- Un dwyll wyt o bwyll, o ball dramwy—hoed,
- Â hud mab Mathonwy;
- Unwedd y'th wneir â Chreirwy,
- Enwir fryd, rhyhir frad rhwy.'
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- R. Geraint Gruffudd a Rhiannon Evans (gol.), Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug (Aberystwyth, 1997). Testunau cerddi'r bardd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd