Content-Length: 88346 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Llywelyn_Fychan_ap_Llywelyn_Foelrhon

Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon (bl. ail hanner y 14g).[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddom am y bardd ond cedwir ei ach mewn llawysgrif achyddol gan Gruffudd Hiraethog. Yn ôl yr ach honno, sy'n anghyflawn, roedd yn perthyn i deulu o feirdd yng nghwmwd Talybolion, gogledd-orllewin Môn, teulu a gynhwysai Dafydd Benfras, un o feirdd mawr Oes y Tywysogion a ganodd i Llywelyn Ein Llyw Olaf. Roedd hefyd yn gefnder i'r bardd Gruffudd ap Maredudd.[1]

Dim ond un gerdd o waith Llywelyn sydd ar glawr, sef awdl gyffes y bardd. Priodolir cerdd arall i fardd o'r enw Llywelyn Fychan o'r un cyfnod ond ymddengys mai bardd arall yw'r Llywelyn hwnnw.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon'.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Llywelyn_Fychan_ap_Llywelyn_Foelrhon

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy